Mae gan y BBC stori heddiw am gynnydd sylweddol yng nghwerthiant ffonau HTC. Dwi wedi sylwi ar lawer o mwy o bobl yn defnyddio ffonau Android gan HTC, yn enwedig merched. Yn ein swyddfa ni, mae iPhone gan bedwar dyn, a’r HTC Desire gan dri menyw ag un dyn (ac un arall ar y ffordd).
Ar y trên hefyd dwi’n sylwi fwy o ferched yn defnyddio ffonau HTC. Oes patrwm yma? Dwi’n amau fod e rhywbeth i wneud a diwylliant ‘macho’ cwmni Apple. Mewn rhyw ffordd ryfedd mae nhw wedi cymryd drosodd o Microsoft fel ‘bwli’ y byd cyfrifiadurol. Mae personoliaeth y pennaeth Steve Jobs i’w wneud a hyn dwi’n siwr ond dwi’n credu fod y ffordd mae Apple yn marchnata hefyd yn apelio fwy at ddynion.
Wrth ryddhau cynnyrch newydd mae Apple yn creu ‘râs’ lle mae cyfrinachedd yn bwysig i ddechrau gyda leaks o wybodaeth tactegol. Mae hyn yn creu cystadleuaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n arwain at un diwrnod ‘mawr’ lle mae rhaid ymladd i fod y cynta yn y ciw i brynu’r teclyn newydd. Mae hyn yn apelio at gîcs a gîcs gwrywaidd yn sicr.
Heb fod yn rhy ystrydebol dwi’n credu fod merched yn hoffi cymharu wrth siopa a ddim mor frwd dros fod y cynta i’r felin, a bod yn early adopter. Mae yna ddigon o gîcs benywaidd hefyd a mae nhw hefyd yn edrych ar y specs a’r dechnoleg tu ôl i declyn, ond does sdim rhaid fod yn rhan o’r ‘râs’.
Dim ond damcaniaeth yw’r uchod, ond mi fyddai’n ddiddorol iawn gweld unrhyw ystadegau ar y defnydd o ffonau clyfar gan y ddau ryw.
Gan Huw Waters 6 Gorffennaf 2010 - 10:31 pm
Felly, pwy sy’n ennill y frwydr?
Hoffwn i gael un yn fuan, ond ddim yn siwr pa un. Apple a Windows yn god caeëdig, tra fo Android yn agored. Apple gyda ‘App Store’ poblogaidd, a Windows Mobile 7 am unwaith yn edrych yn hwylus dros ben. Android i’w weld efo cyfleoedd gwell dros gefnogi rhyngwyneb Cymraeg.
Hmmm.
Gan Carl Morris 7 Gorffennaf 2010 - 12:49 am
Ti’n gallu rhedeg efelychydd (e.e. ZX Spectrum, Atari 2600, Commodore 64, hen gemau arced) ar Android.
Maen nhw yn cheeky. Dyw Apple ddim yn cynnig pethau cheeky.
Gan Huw Waters 11 Medi 2010 - 11:01 pm
Yr wythnos nesa ma, mae HTC am ryddhau’r Desire Z a Desire HD. Y Desire HD fydd fersiwn rhyngwladol o’r Evo yn yr UDA, a dwi’n meddwl mi wnai ei brynnu.