Ydych chi, fel fi, wedi syrffedu ar drafod fethiannau Golwg 360 a wedi cael llond bol o ddisgwyl iddo weithio’n “iawn”? Wel mae gen i un pwt bach arall i’w bostio, nid fod gen i lawer o newyddion da i’w gynnig i chi.
Deg diwrnod ar ôl lansiad (cynta) Golwg 360 ar Fai 15fed wnes i ddanfon llythyr ebost at Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Treftadaeth yn y Cynulliad. Roedd yr ebost yn mynegi fy mhryderon ynglŷn a safon y gwaith ar y wefan a’r ffaith fod tipyn o niwl dros bwy yn union ddatblygodd y wefan ac i le aeth yr arian. Erbyn hyn mae’r niwl wedi clirio cryn dipyn.
Fe ges i ymateb i’r ebost ar Fehefin 16eg gan swyddog ar ran y Gweinidog. Dwi am gyhoeddi (gyda chaniatad) darnau o’r ymateb gyda rhai sylwadau pellach gen i.
Rwy’n gwerthfawrogi eich pryder am y wefan newydd ond rydym yn gobeithio y caiff Golwg360 gyfle i ddangos ei photensial dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Dyma sydd wedi cael ei ddweud o hyd – arhoswch am ychydig wythnosau a misoedd (ar ôl aros am 12 mis ers i Golwg ennill yr arian). Os oedd y wefan wedi diwallu yr anghenion sylfaenol (h.y. dangos erthyglau newyddion mewn ffordd syml, deniadol a hawdd i’w ddefnyddio) fyddai neb wedi cwyno. Fe fyddai unrhyw ddatblygiadau pellach yn fonws. Os ydych chi’n ceisio creu gwefan ‘chwyldroadol’ (heb yr arian na’r arbenigedd) mi fyddwch chi’n siwr o syrthio’n fflat ar eich gwyneb. Gwell o lawer yw creu sylfaen cadarn a adeiladu wrth i’r gynulleidfa dyfu.
Mae cwmni Tinopolis (oedd yn rhan greiddiol o gais cwmni Golwg Cyf. a enillodd y tendr i ddarparu’r gwasanaeth – a hynny mewn cystadleuaeth agored) yn gweithio i gywiro’r problemau technegol ac mae’n dda gweld bod y gwasanaeth sylfaenol yn gweithio i bwrpas profi cychwynnol erbyn hyn, a bod Golwg Newydd a’i isgontractwyr yn glir ynglŷn â’r camau datblygu nesaf.
Mae’n wir fod Tinopolis yn gweithio i gywiro’r wefan ond y rheswm am hyn yw mai nid nhw ddatblygodd y wefan yn y lle cynta (er mai ei henw nhw oedd ar y tendr) a ni chafodd y wefan ei brofi yn ddigon da yn y lle cynta. 6 wythnos ar ôl lansio fasen i’n disgwyl iddyn nhw fod wedi cywiro y problemau sylfaenol o leia. Mae’n amlwg nad yw hi’n hawdd gwneud hyn oherwydd safonau isel y wefan i gychwyn.
Ni fyddai cwmni Golwg Newydd yn honni arbenigedd mewn adeiladu gwefannau, ond roedd gan TV Everywhere brofiad o redeg a datblygu cynlluniau o’r math hwn ac mae gan Tinopolis Interactive adran gref yn arbenigo yn y maes. Mae’r ddau gwmni hyn, y mae gan Golwg gytundeb â nhw, yn gwmnïau Cymreig.
Yn sicr mae Tinopolis wedi datblygu rhai gwefannau yn y gorffennol ond nid dyna eu cymhwyster craidd. Mae yna nifer o gwmnïau bach yng Nghymru sydd yn llawer mwy adnabyddus am adeiladu gwefannau, gyda llond llaw yng Nghymru yn cyflogi rhwng 15-40 o staff ers bron i bymtheg mlynedd. Mae TV Everywhere yn gwmni un-dyn sydd yn arbenigo mewn rhoi fideo ar y we ond ‘sdim golwg o bortffolio ehangach o ddatblygu gwefannau aml-bwrpas.
Yn ôl cyfarwyddwr TV Everywhere, Iolo Jones, doedd gan Tinopolis ddim yr amser ac adnoddau i adeiladu’r wefan a felly fe ddaeth ei gwmni e i’r adwy drwy all-ffynonnellu’r gwaith i gwmni o India. Nid oedd gan TV Everywhere unrhyw rôl wrth ddatblygu’r wefan felly – heblaw “rheoli’r prosiect”. Fe dalwyd £8,400 am y gwaith yma ond nid arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd yn ôl Mr Jones.
Mae datblygwyr yn India yn gallu gweithio am gost o tua $5-20 yr awr (wnawn ni fod yn geidwadol a dweud $15). Mae cost datblygwyr ym Mhrydain yn gallu amrywio cryn dipyn yn dibynnu ar faint a phrofiad y cwmni. Mi fyddai $75 yr awr yn gyfradd dda iawn os oeddech chi am gael gwaith safonol gyda rhywfaint o ddisgownt ‘noddiant’. Felly i gwmni yn ynysoedd Prydain mi fyddai’r cyllid ar gyfer y gwaith o leia 5 gwaith yn fwy – £40,000+
Mae £8,400 yn swnio fel bargen felly? Yn sicr mi fyddai’n fargen os oedd y wefan o safon uchel ac yn gyfatebol i’r gwaith allai fod wedi ei wneud gan gwmni Cymreig. Mewn ffordd – fyddai neb ddim callach a fyddai gan neb unrhyw reswm i ymchwilio i pwy adeiladodd y wefan.
Fe fydd y wefan yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac mae darpariaeth ar gyfer gwasanaeth RSS, er bod Golwg Newydd hefyd yn gorfod ystyried yr agweddau masnachol sy’n rhan bwysig o gynllun busnes y cwmni. O ran dylunio, fe effeithiodd y problemau technegol ar y diwyg cychwynnol ond y mae gwelliannau wedi digwydd ers y lansio, a rhagor i ddod.
Mae ganddyn nhw gynllun busnes? Sut mae darparu RSS yn effeithio ar yr agwedd masnachol? Mae’r gwasanaeth RSS/Twitter gan Golwg Arall wedi profi’n llwyddiannus a ffordd effeithiol o hyrwyddo’r wefan (er fod pawb wedi syrffedu â’r problemau technegol parhaol). Mae’r ffaith fod y diwyg yn cael ei ‘wella’ wrth fynd yn ei flaen yn dangos nad oedd datblygiad y wefan yn un cadarn a safonol o’r dechrau a felly fe wastraffwyd yr arian wrth ddatblygu’r wefan.
Fe nododd y cwmni’n glir yn y lansio mai cyfnod prawf fyddai’r cyfnod cychwynnol ac y byddent yn falch o dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr. Yn anffodus, fe amharodd y problemau technegol ar y cyfnod prawf hwnnw, ond mae’n dechrau digwydd o ddifri nawr.
Oedden nhw ddim o ddifri i ddechrau? Mae’n edrych i fi fel petai pawb yn trio gwadu fod unrhyw gamgymeriadau mawr wedi’u gwneud o gwbl (stori debyg i’r aelodau seneddol a’u treuliau). Unwaith i’r Gweinidog dderbyn yr ‘adroddiad‘ gan y Cyngor Llyfrau ar y mater yma, gobeithio fe fydd rhywun yn cymeryd y cyfrifoldeb a phenderfynu ail-ddatblygu’r wefan o’r cychwyn gyda chynllun cadarn a chyllid addas.
Mi fyddai’n benderfyniad dewr ond yn un gwbl angenrheidiol os yw Golwg 360 am fod yn wefan newyddion llwyddiannus yn y tymor hir.
Gan Mei 24 Mehefin 2009 - 3:14 pm
Mae’r ymatebion hyd yn hyn yn chwerthinllyd.
“Mae adeiladu gwefan yn gymleth, ch’mo?” – dyna yw’r vibe.
A mae fel bod rhywun wedi cynghori “saying it’s in beta testing is a valid excuse”, felly mae’r hafan yn rhoi disclaimer o pam bod y wefan yn sh!t, a gall ei ddefnyddio mewn ymatebion tebyg i’r uchod.
Mae angen scrapio’r wefan bresennol, a thalu rhywun (chdi?) i gynllunio ac adeiladu un fodern, deiniadol a phroffesiynol. Ac ella banio unrhyw un sy’n gofyn “gelli di esbonio RSS i fi eto?” o’r cynllun 😉
Gan Rhys 28 Mehefin 2009 - 8:42 am
Mae’r busnes RSS yma’n rhyfedd. Sut all darparu RSS effeithio ar ‘gynllun busnes’ gwefan sydd am ddim i’w ddarllen. Yr unig reswm alla i feddwl ydy y byddent yn poeni na fyddai pobl yn ymwld â’r wefan yn uniongyrchol gan effeithi eu ‘hits’ neu beth bynnag, ond oni bai am yr RSS ti’n ddarparu rwan, faswn i byth yn meddwl mynd i’r wefan yn y lle cyntaf.
Wyt ti’n gwybod faint o bobl sy’n tanysgrifio i RSS Golwg Arall? Yn ôl Bloglines, mae 4 wedi tanysgrifio i borthiant Golwg Arall – mae 17 wedi tanysgrifio i un ‘BBC ar-lein’, a 130 wedi tanygrifio i un newyddion Saesneg Cymreig y BBC. Buaswn i’n cymharu ystadegau cyfrif Feedburner fy mlog i geisio ddyfalu ‘ratio’ faint sy’n defnyddio Bloglines i’w gymharu a’r dallenwyr ffrwd eraill fel Yahoo, GoogleReader a Firefox ayyb, ond mae’r sampl rhy fach iddo fod o unrhyw werth?
Sylwaf bod 46 yn dilyn tweets GolwgArall – wyt tin gorfod bwydo nhw’n unigol, neu oes yna ffordd o osod porthiant RSS i weithio ar gyfrif Twitter? Fyddwn i wedi dychmygu na fyddai Twitter eisiau i bobl fedru gwenud hynny.
Gan Dafydd Tomos 28 Mehefin 2009 - 1:17 pm
Mae tua 9 unigolyn yn defnyddio’r RSS drwy wasanaethau fel Bloglines/iGoogle/Yahoo a mae tua 20 cyfeiriad IP wedi tanysgrifio yn uniongyrchol. Mae’n bosib fod fwy nag un person tu ôl hynny e.e. mae’n cael ei fwydo i fewnrwyd Bwrdd yr Iaith.
Mae tua 45 person ‘go iawn’ yn dilyn ar Twitter. Mae’n bosib danfon nhw’n unigol drwy API twitter, ond wnes i gymryd y ffordd syml (fel y BBC) a defnyddio Twitterfeed sy’n bwydo 5 stori bob 15 munud.