Gwella Golwg

Mae’n fis ers lansiad cyntaf gwefan Golwg 360 a mae yna llawer iawn o drafodaeth wedi bod ers hynny. O ran y wefan, ychydig iawn sydd wedi newid. Dwi’ ddim yn disgwyl newidiadau radical i’r wefan o fewn mis, yn enwedig oherwydd fod Tinopolis wedi gorfod cywiro gwallau mewn cod cwmni arall a gwneud hynny ‘am ddim’.

Er hyn, mae yna nifer o newidiadau bach fyddai’n hawdd iawn i newid er mwyn gwneud y wefan yn fwy defnyddiol. Wna’i ddim sôn am bethau fel ‘defnyddio gwirydd sillafu’ a ‘gwella safon yr ysgrifennu’ er fod hynny wedi bod yn feirniadaeth gyson gan eraill. Dyw hyn ddim yn newid y ffaith fod angen ail-ddatblygu y wefan o’r dechrau chwaith.

Dyma restr byr o awgrymiadau wnes i ddanfon at Olygydd Golwg heddiw:

  1. Cael gwared a’r dewis ‘nifer/eitemau rhanbarth’ ar yr adrannau. Mae’n arafu’r wefan ac yn weddol ddi-bwynt. Dwi wedi gwylio nifer o bobl yn defnyddio’r wefan a does neb yn deall ei fod yna. Hyd yn oed ar ôl dangos be sy’n bosib – ychydig iawn sy’n deall pwrpas y sustem i addasu/ychwanegu adrannau, nac yn deall sut i’w weithio.

    Er enghraifft, beth yw ei bwrpas ar yr adran ‘Prydain’ neu ‘Rhyngwladol’? Erthyglau rhyngwladol sy’n berthnasol i Gaerdydd? Does yna ddim un (a fasen i ddim yn disgwyl rhai).

    Efallai fod hi’n well cael adran ‘newyddion lleol’ lle all pobl ddewis eu ardal lleol i weld y newyddion perthnasol.

  2. Defnyddio’r gofod sydd ar gael i roi prif bennawd y stori ar draws y dudalen (does dim angen y testun ‘yn ôl’ chwaith am fod hynny yn weithred sy’n rhan o bob porwr gwe).
  3. Rhoi dyddiad ac amser llawn ar bob stori, ynghyd a ‘amser diweddaru’ os yw stori yn cael ei newid ar ôl ei gyhoeddi.
  4. Yn yr adran ‘Sylwadau’, nodi pwy yw awdur y darn (hyd yn oed ‘Y Golygydd’ os ydyn nhw’n adlewyrchu barn y cwmni nid unigolyn).
  5. Cael gwared o fylchau di-angen rhwng paragraffau a safoni ar maint/diwyg y testun drwy CSS yn hytrach na gadael i’r newyddiadurwyr newid maint/lliw ffontiau.

    Dyma dri enghraifft lle mae hyn yn mynd o’i le (a mae yna lawer mwy): [1] [2] [3]

  6. Dangos y lluniau ar y prif dudalennau yn eu maint cywir e.e. 150x150px yn hytrach na 160x160px
  7. Newid yr hysbysebion fel nad ydyn nhw’n symud neu’n fflachio rhy gyflym. Os ydyn nhw’n fflachio fwy na unwaith bob 2 eiliad mi fyddan nhw’n gwneud hi’n anodd i rhai pobl (sydd a nam ar eu golwg) ddarllen yr erthyglau. Hefyd mae rhai hysbysebion yn ymddangos ddwywaith ar yr un dudalen.

    Mae’n bosib dadle fod llawer gormod o hysbysebion ar y wefan i gymharu gyda gwefannau tebyg a mae ymchwil yn dangos fod un hysbyseb ar bob tudalen yn fwy effeithiol o ran tynnu sylw’r darllenwr na nifer o rai aflafar – mae pobol yn dueddol o ‘diwnio allan’ y rhain. Mae’n werth edrych ar ymchwil y ‘guru’ gwe Jakob Nielsen er fod ei farn yn reit eithafol ac yn anghyffyrddus i nifer o bobl marchnata.

  8. Cuddio y dudalen ‘Gymorth‘ sydd yn embarasing o wag ar hyn o bryd (ac yn Saesneg).
Postiwyd y cofnod hwn yn Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.