Mae’n fis ers lansiad cyntaf gwefan Golwg 360 a mae yna llawer iawn o drafodaeth wedi bod ers hynny. O ran y wefan, ychydig iawn sydd wedi newid. Dwi’ ddim yn disgwyl newidiadau radical i’r wefan o fewn mis, yn enwedig oherwydd fod Tinopolis wedi gorfod cywiro gwallau mewn cod cwmni arall a gwneud hynny ‘am ddim’.
Er hyn, mae yna nifer o newidiadau bach fyddai’n hawdd iawn i newid er mwyn gwneud y wefan yn fwy defnyddiol. Wna’i ddim sôn am bethau fel ‘defnyddio gwirydd sillafu’ a ‘gwella safon yr ysgrifennu’ er fod hynny wedi bod yn feirniadaeth gyson gan eraill. Dyw hyn ddim yn newid y ffaith fod angen ail-ddatblygu y wefan o’r dechrau chwaith.
Dyma restr byr o awgrymiadau wnes i ddanfon at Olygydd Golwg heddiw:
- Cael gwared a’r dewis ‘nifer/eitemau rhanbarth’ ar yr adrannau. Mae’n arafu’r wefan ac yn weddol ddi-bwynt. Dwi wedi gwylio nifer o bobl yn defnyddio’r wefan a does neb yn deall ei fod yna. Hyd yn oed ar ôl dangos be sy’n bosib – ychydig iawn sy’n deall pwrpas y sustem i addasu/ychwanegu adrannau, nac yn deall sut i’w weithio.
Er enghraifft, beth yw ei bwrpas ar yr adran ‘Prydain’ neu ‘Rhyngwladol’? Erthyglau rhyngwladol sy’n berthnasol i Gaerdydd? Does yna ddim un (a fasen i ddim yn disgwyl rhai).
Efallai fod hi’n well cael adran ‘newyddion lleol’ lle all pobl ddewis eu ardal lleol i weld y newyddion perthnasol.
- Defnyddio’r gofod sydd ar gael i roi prif bennawd y stori ar draws y dudalen (does dim angen y testun ‘yn ôl’ chwaith am fod hynny yn weithred sy’n rhan o bob porwr gwe).
- Rhoi dyddiad ac amser llawn ar bob stori, ynghyd a ‘amser diweddaru’ os yw stori yn cael ei newid ar ôl ei gyhoeddi.
- Yn yr adran ‘Sylwadau’, nodi pwy yw awdur y darn (hyd yn oed ‘Y Golygydd’ os ydyn nhw’n adlewyrchu barn y cwmni nid unigolyn).
- Cael gwared o fylchau di-angen rhwng paragraffau a safoni ar maint/diwyg y testun drwy CSS yn hytrach na gadael i’r newyddiadurwyr newid maint/lliw ffontiau.
Dyma dri enghraifft lle mae hyn yn mynd o’i le (a mae yna lawer mwy): [1] [2] [3]
- Dangos y lluniau ar y prif dudalennau yn eu maint cywir e.e. 150x150px yn hytrach na 160x160px
- Newid yr hysbysebion fel nad ydyn nhw’n symud neu’n fflachio rhy gyflym. Os ydyn nhw’n fflachio fwy na unwaith bob 2 eiliad mi fyddan nhw’n gwneud hi’n anodd i rhai pobl (sydd a nam ar eu golwg) ddarllen yr erthyglau. Hefyd mae rhai hysbysebion yn ymddangos ddwywaith ar yr un dudalen.
Mae’n bosib dadle fod llawer gormod o hysbysebion ar y wefan i gymharu gyda gwefannau tebyg a mae ymchwil yn dangos fod un hysbyseb ar bob tudalen yn fwy effeithiol o ran tynnu sylw’r darllenwr na nifer o rai aflafar – mae pobol yn dueddol o ‘diwnio allan’ y rhain. Mae’n werth edrych ar ymchwil y ‘guru’ gwe Jakob Nielsen er fod ei farn yn reit eithafol ac yn anghyffyrddus i nifer o bobl marchnata.
- Cuddio y dudalen ‘Gymorth‘ sydd yn embarasing o wag ar hyn o bryd (ac yn Saesneg).