Yn yr wythnos ddiweddaf dwi wedi bod yn gwylio Nasa TV lle mae’r gofodwyr ar y wennol ofod (nid ‘llong ofod’ fel mae Golwg yn dweud) yn trwsio a diwygio telesgôp Hubble. Mae nhw’n arwyr yn wir, yn dygymod a phob math o broblemau yn yr amgylchedd di-gyfaddawd mewn ffordd trefnus, amyneddgar a gofalus.
Yn wahanol i deithio i’r gofod, dyw creu gwefan ddim yn ‘rocket science’. Oes mae yna heriau, problemau, gwallau annifyr a mi all fod yn broses hir a phoenus. Er hyn os ydych chi’n: adeiladu tîm da o’ch cwmpas; dewis technoleg addas; defnyddio dulliau synhwyrol o ddatblygu meddalwedd – mae’n bosib creu gwefannau cymleth iawn mewn ychydig fisoedd.
Dros y penwythnos dwi wedi datblygu gwefan sy’n cymeryd y cynnwys o wefan Golwg 360 a’i gadw mewn cronfa ddata WordPress. Mae hyn wedi cymeryd tua 6 awr i ddatblygu sgriptiau Perl sydd yn ‘crafu’ y testun a’r lluniau oddi ar wefan Golwg. Roedd hyn yn llawer mwy trafferthus nag oeddwn i’n ddisgwyl oherwydd y llanast o HTML a CSS sydd yng nghrombil y wefan. Roedd tipyn o waith profi ac ail-brofi er mwyn cael testun y newyddion allan mewn fformat call. Fe gymerodd hi tua awr i greu blog WordPress gyda patrymlun addas.
Felly, hoffwn i gyflwyno Golwg Arall. Dwi’n credu fod y straeon yn fwy darllenadwy ar y wefan, er nad oes ganddyn nhw y ‘categorïau’ sydd yn wefan Golwg. Er mae’r calendr a’r porthiant RSS yn gwneud hi’n llawer mwy defnyddiol na’r wefan swyddogol.
Mwynhewch!
Gan Rhys 18 Mai 2009 - 8:53 am
Diolch yn fawr iawn am y gwasanaeth cyhoeddus hyn.