Wel mae’r cwsmer cynta wedi bod ar y ffôn yn dweud “O na, mae’r cyfradd VAT yn newid, beth am ein siop ar lein?”, er does dim byd wedi ei gyhoeddi eto.
Dwi ddim yn gwybod os yw’r canghellor yn deall cweit faint o waith fydd angen i bobl newid eu systemau. Dyw’r gyfradd ddim wedi newid ers 1991, felly ychydig iawn o raglennwyr sydd wedi ystyried nad yw’r gyfradd dreth yn ‘gysonyn’ ond yn ‘newidyn’.
Gawn ni weld beth fydd y cyhoeddiad swyddogol ond dwi’n gallu gweld dipyn o ruthro prynhawn ‘ma i newid gwefannau i ddefnyddio’r cyfradd newydd. Fel mae’n digwydd mi fydd yn reit syml gwneud hyn ar gyfer y rhan fwyaf o wefannau gan fod y gyfradd yn cael ei storio mewn un man yn y cod. Mae nifer o’r gwefannau rydyn ni wedi adeiladu yn gorfod delio gyda trethi lleol yn America a mae cyfrifo hynny llawer mwy cymleth na unrhyw beth ym Mhrydain.
Dwi newydd wneud arolwg cyflym o’r gwefannau yn ein gofal ni a mi fydd angen newid tri ffigwr:
- 17.5 -> 15
- 1.175 -> 1.15
- 7/47 -> 3/23 (dyma esboniad o’r ffracsiynau yma)
Gan Huw Waters 25 Tachwedd 2008 - 1:29 am
Er fydd y gyfradd TAW yn newid, dwi’m yn weld pobol yn newid eu prisiau llawer. Mi wnawn nhw geisio manteisio ar y sefyllfa i wneud mwy o bres, fel y banciau.