Oasis vs Take That

Dwi’n gyfrifol am letya gwefan sy’n gwerthu ticedi. Nawr mae’n wefan weddol brysur ond dim byd allan o’r arfer (allan o 150 gwefan dwi’n gynnal, mae e tua 15fed ar y rhestr). Yn yr wythnos ddiwethaf mae’n amlwg y bydd rhaid edrych eto ar letya’r wefan, o weld patrwm ei ddefnydd.

Yn gynta, fe aeth tocynnau gig Oasis yn Stadiwm y Mileniwm ar werth. Dim ond rhyw 50 tocyn oedd ar gael drwy’r wefan acwrth gwrs roedd pawb yn cyrraedd yr un amser yn benderfynol o gael ei archeb fewn. Fe ddaeth hi’n amlwg fod y wefan yn brysur iawn o 10 y bore ymlaen am tua awr (pan werthwyd y cyfan). Er fod y ‘llwyth’ ar y gweinydd yn reit uchel, fe wnaeth y system ymdopi a ro’n i’n meddwl mai dyna ddiwedd y peth. Wnes i nodi y byddai angen symud y wefan i weinydd mwy pwerus a roedden ni am drafod hynny gyda’r cwsmer.

Wythnos yn ddiweddarach, dyna’r un peth yn digwydd eto (am 9 y bore tro ‘ma). Fe fydde wedi bod yn neis cael cael gwybod o flaen llaw. Daeth hi’n amlwg yn eitha cyflym mai Take That oedd ar fai tro ‘ma. Roedd y wefan yn cael llawer mwy o geisiadau am y tocynnau yma, gymaint fel fod ein system awtomatig yn torri fewn er mwyn cyfyngu’r pwysau ar y gweinydd. Ar ôl ychydig o newidiadau bach i gyflymu’r wefan roedd popeth o dan reolaeth erbyn 10 ac erbyn canol dydd fe werthwyd y cyfan o’r nifer cyfyngedig o docynnau oedd ar gael drwy’r wefan.

Felly mae Take That yn curo Oasis, o leia ym mrwdfrydedd ei ffans. Erbyn y ‘tro nesa’ fydda’i wedi symud y wefan i weinydd arall sydd a ychydig fwy o le i ehangu iddo.

Postiwyd y cofnod hwn yn Technoleg. Llyfrnodwch y paraddolen.

One Response to "Oasis vs Take That"