Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio gwefan newydd ar gyfer denu ymwelwyr i’r ardal. Fel arfer gyda gwefannau o’r fath mae yna fersiwn Cymraeg a Saesneg ond ychydig yn llugoer yw’r ymdrech a wnaed ar y fersiwn Cymraeg.
Mae e’n gawlach rhyfedd o gyfieithiadau safonol, diffyg cyfieithu, placeholder text (cy), cyfieithiadau munud olaf drwy TranExp e.e. “Breaks” = “‘n anhydwf doriadau”, “Weather” = “dywydd” , “Competitions” = “chydymgeisiau” (beth?!) a hyd yn oed wenglish traddodiadol – “cycling” = “cyclio”.
Heblaw y cyfieithu, dyw dyluniad y wefan ddim yn gweithio’n gywir yn Firefox, fel mae’n amlwg o’r dudalen flaen (ydi e wir yn bosib fod cwmni dylunio gwe yn 2008 ddim yn profi eu cynllun yn Firefox a Safari? Falle wir).
Dwi’n siwr fod rhesymau da dros y gwallau (rhywun pwysig yn y cyngor yn gwthio am lansiad cyn oedd yn barod efallai), ond yn anffodus mae’r diffyg sylw i’r manylion yn rhoi enw gwael nid yn unig i wefannau dwyieithog ond dylunwyr gwe Cymreig yn gyffredinol.
Gan Rhys 10 Mawrth 2008 - 9:57 pm
Am gawlach, mae’n anfaddeuol defnyddio TranExp. Er o leiaf mae’r Saeseng yn edrych cywaethed a’r gymraeg ar Firefox!
Tydi’r syniad o ddefnyddio’r Gymraeg wedi hyd yn oed croesi meddwl Visit Caerphilly
Gan Mei 17 Mawrth 2008 - 11:58 am
O leia mae na rwbath yna.
Mae northwales.co.uk wedi penderfynu peidio defnyddio dim o’r Gymraeg…