Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:
- Tachwedd 2001 – Ymchwil ar sefydlu papur dyddiol Cymraeg
- Ebrill 2002 – Papur dyddiol Cymraeg yn bosibilrwydd
- Rhagfyr 2002 – Sefydlu Dyddiol Cyf i ddechrau codi arian
- Ionawr 2004 – Papur dyddiol ‘mewn blwyddyn
- Medi 2004 – Amheuon am bapur newydd Cymraeg
- Tachwedd 2005 – Dim golwg eto o’r Byd
- Mehefin 2006 – Swyddi: Y Byd yn ei le?
- Tachwedd 2006 – Enwi golygydd y Byd
- Ionawr 2007 – Papur dyddiol gam yn nes
- Ebrill 2007 – Y Byd yn closio at gymuned
- Mehefin 2007 – Y Byd yn closio at ddiwrnod mawr
- Tachwedd 2007 – Papur dyddiol: ‘Methu dedlein’
Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur. Mae gan academyddion yr holl amser yn y byd i gynllunio, trafod a threfnu. Yn y byd masnachol, mae’n rhaid cymryd y cyfle mor fuan a phosib gan fod y byd yn newid drwy’r amser. Yn 2001 roedd sefydlu papur dyddiol newydd yn ychydig o anachronism gyda dyfodiad y we, a mae’r syniad hyd yn oed yn fwy gwallgo heddiw.
Erbyn hyn, mae cylchgrawn Golwg yn sôn am sefydlu gwefan newyddion dyddiol. Sgwn i a fydd hwn yn gweld golau ddydd cyn diwedd y ddegawd?
Gan sara 4 Rhagfyr 2007 - 3:29 pm
mae’n gywilydd arnom ni i gyd nad oedd digon o bobl yn ddigon mentrus i roi’n llaw yn ein pocedi i gefnogi’r fenter hon. ‘self-fulfilling prophecy’ ydi’r holl beth wedyn (hy “snam pwynt rhoi achos methu wneith o…”). ewch i chwilio tu cefn i’ch soffa a chyfrannwch/thanysgrifiwch!
Gan Johnny R 4 Rhagfyr 2007 - 7:05 pm
Nes i pigo fewn i gwilio’r dadl yma, yn wir hollol wast o arian pur. Yng Nghymru heb nawdd, dim byd. Mae hwn yn simtwm fawr y ganrif i ‘petha cymraeg’ ynte? Mae syniad fi yw cael ‘sycar’ i dosbarthu y peth am flwyddyn, fel mae’r Daily Post yn neud gyda’r racsan cymraeg mae Rhys Mwyn yn malu cachu fewn. Nath hwnna yn mynd i’r wal heb y Daily Bost. as for golwg..heb prynnu’r cach ers degawd, Huw Stephens/Bethan Elfyn ruined the pop in that. ge di gweld lot o petha bop yn mynd i’r wal rwan, dim nawdd, dim roc..(diolch byth)..Y BYD, wel mae unrhyw ‘blog’ yn well ar y we. Dolig llawn i bawb, cofio Rhidian, dick head X-Factor, nice hair, shame about the beady eyes.. Y wasg gymraeg..RIP, yr SRG..RIP..S4C RIP..RC RIP..start a new lingo..english.
Gan Hogyn o Rachub 4 Rhagfyr 2007 - 8:36 pm
Dw i’m yn meddwl ei fod yn syniad gwallgo, ond ti’n iawn i ddweud ei bod yn amlwg mai academyddion sy’n ei gwthio ac nid gwyr busnes – iawn, mae’n ddigon teg rhoi rhyw fath o grant i’r papur ond mae’n rhaid iddo gael sail ariannol gadarn annibynnol hefyd.
Ond dw i’n teimlo bod y peth yn colli ei fomentwm a’i frwdfrydedd rwan ac yn ‘dragio’: mae hynny o weithiau y mae wedi cael ei ohirio jyst yn wirion. Serch hynny mi fyddaf yn ei brynu ac yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter.
Gan Rhys Llwyd 5 Rhagfyr 2007 - 1:22 pm
“Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur.”?! Academydd ydy Ned Thomas ond beth am y cyfarwyddwyr eraill?
* Robat Gruffudd (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) – Brodor o Abertawe. Ef sefydlodd Gwasg y Lolfa (Argraffwyr a Chyhoeddwyr) yn Nhalybont, Ceredigion.
* Robin Llywelyn (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) – Rheolwr Cyffredinol Portmeirion a nofelydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr nifer o gwmniau.
* Gwyn Roberts (Cyfarwyddwr a Chyfranddalydd Cychwynnol) Bu’n gweithio i Virgin Management Ltd a Virgin Mobile yn Llundain a thrwy’r byd, ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Creu cynlluniau busnes a datblygu mentrau newydd yw ei waith dyddiol.
* Elis Evans (Ymgynghorydd) – Brodor o Ogledd Sir Benfro. Mae ganddo oes o brofiad ym maes rheoli a hysbysebu yn sgil ei waith dros y blynyddoedd gyda phapurau Thomson a Newscom. Bu’n ddirprwy reolwr y Scotsman a’r Western Mail ac hefyd yn reolwr Cyffredinol Celtic Press. Ef sefydlodd y Cardiff Independent.
* Tom McGowran (Ymgynghorydd) – Brodor o’r Alban a chyn Brif Weithredwr grwp papurau newydd Tindle. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn rheoli papurau newydd. Mae’n ymgynghorydd i Ddyddiol Cyf. ar agweddau technegol y fenter.
Nid diffyg cyfarwyddwyr mentrus sydd ond diffyg menter y Cymry ei hun a hefyd diffyg cefnogaeth Alun Pugh pan oedd ef dal o gwmpas.
Gan Johnny R 14 Rhagfyr 2007 - 6:51 pm
Wir yw mae cymru angen ‘Daily Sbort’ Cymraeg, tits plastered dros y peth. Dumb it down. Gwerthu fel slecs wedyn, far too much hi-brow dosbarth ganol cachu fel Barn (neud un siwr fod band Rhys llwyd yn cael mensh bob erthygl??) ie ‘Sbort Y Dydd’ soft porn, yr unig ateb.