Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan.
Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o wefan wnes i weithio arno am flynyddoedd, sef hen wefan y Bwrdd Croeso. Mae nhw wedi newid graffeg y pennawdau gyda union yr un arddull a chadw’r dylunio yr un fath heblaw am y cynnwys a’r lluniau wrth gwrs.
Fe ddiflannodd y fersiwn yna o wefan y Bwrdd Croeso (nawr yn Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru) yng nghanol 2002, felly mae’n rhaid fod y dynwarediad Catalanaidd tua 5 mlwydd oed.
Gan Rhys 19 Ebrill 2007 - 2:03 pm
Digwilydd!
Gan Nic Dafis 20 Ebrill 2007 - 11:23 am
Cyd-ddigwyddiad llwyr, siwr o fod.
Wyt ti am ei bostio ar Pirated Sites?