Wrth adael y gwaith neithiwr fe welais i fod yr heddlu wedi ymgynnull i lawr y stryd. Roedd pedwar car heddlu yno a roedd tâp plastig wedi ei glymu ar draws y stryd. Mi roedd rhai o’r heddweision yn sgwrsio gyda grŵp o ddynion ifanc ac yn cymryd nodiadau. R’on i’n disgwyl gweld rhyw stori ar y newyddion ‘falle ond doedd dim byd.
Er fod yr heddlu dal yno y bore ‘ma doedd gan neb ddim syniad be oedd wedi digwydd. Erbyn hyn mae ychydig bach o’r manylion wedi ei gyhoeddi yn yr Echo. Y tro diwethaf i’r stryd fod yn y newyddion, roedd am resymau gwahanol iawn.
Gan Nwdls 28 Gorffennaf 2006 - 2:29 pm
Mi ffeindiais i ryw gylchlythyr ar y we ryw dro oedd yn sôn am raid anferth yn Butetown na wnaeth yr Echo nac unrhyw un ei adrodd. Y rheswm dros gyhoeddi’r erthygl ar y we oedd fod yr heddlu yn honedig wedi bod yn ryff iawn efo nhw. Dwi’m yn cofio be gychwynnodd y reiat, a dwi’n methu ffeindio’r erthygl rwan.