A dyma’r newyddion…

Mae’r BBC wedi ryddhau fersiwn hir o gerddoriaeth agoriadol News 24. Dwi’n caru stwff fel hyn – mae cyfansoddiadau David Lowe yn wych. Mae’n cyfleu hunan-bwysigrwydd ‘Y Newyddion’ i’r dim gyda awgrym o goegni – sylwch gymaint o swooshes, blîps bach a drym riffs sydd yn cael ei wasgu fewn erbyn hyn. Dwi’n meddwl fod y thema newydd yn cyrraedd yr un lefel o wychrwydd o’r cyfnod ‘drymiau a baneri‘.

Postiwyd y cofnod hwn yn Cerddoriaeth, Newyddion, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.