Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.
Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.
Gan Rhys 11 Mai 2006 - 12:20 pm
Roeddwn i’n crynnu tu ôl i’r soffa drwy’r nôs 🙁
Gan Huw Waters 11 Mai 2006 - 12:26 pm
Da ydi trydan statig!
Gan Hogyn o Rachub 11 Mai 2006 - 1:08 pm
Oeddo’n wych yn doedd! Dw i’n caru stormydd ond mae nhw’n well yn y ddinas nag yng nghefn gwlad!
Gan aran 11 Mai 2006 - 2:06 pm
Gwych – difyr iawn – diolch am hynny…:-)
Gan Rhodri ap Dyfrig 11 Mai 2006 - 2:36 pm
Mae’r trydydd un yn anghygoel. Gawson ni ddim yn Aber neithiwr ond mae’n cnesu fyny am sdorm ar hyn o bryd. Rymblan, gwres, cawodydd trwm, yr arogl yna’n codi oddi ar y tarmac.
Mmm, glaw haf.
Diolch am y clip!
Gan Rhodri ap Dyfrig 11 Mai 2006 - 3:14 pm
Tisio ychwanegu fo i’w ddarlledu ar Sianel Amgen Cymru?
Gan skint writer 11 Mai 2006 - 10:31 pm
Roeddwn i’n gyrru ar yr M4 drwy y storm neithiwr – scary!