Dyma glip bach o Disc a Dawn, y rhaglen cerddoriaeth bop cyntaf yn Gymraeg. Mae Ronnie Davies yn cyflwyno Meic Stevens yn canu ‘Y Brawd Houdini’. Mae Alan Freeman yn tros-leisio hwn felly mae’n siwr fod y clip yma o rhaglen ddogfen. Roedd y dyn camera ar asid, gyda llaw.
Gan neil 13 Ebrill 2006 - 12:29 am
waw, wnath hen Meic edrych mor gwl dyddiau yna…
Gan Nwdls 13 Ebrill 2006 - 1:02 am
Ma’r clip yna o Meic yn class. Class o gan, a ma Ronnie yn edrych yn hollol allan o’i ddyfnder. Crys crap o’i gymharu a skin tight number Meic
Gan Llefenni 3 Mai 2006 - 2:30 pm
Waw, nyts a gwych, o bosib iawn ‘nai ‘i roi ar ‘loop’ a gweld pa effaith mae’n cael ar fy niwrnod gwaith. Dosbarth.
(O.N. oni’n meddwl taw Meic oedd ysbrydoliaeth Flea – y crys na mor dynn i fod reit dryloyw mewn du a gwyn)