Telex.. hen ddyfais gyfathrebu oedd yn gymysgedd o ebost a ffacs – mi roeddech chi’n teipio’ch neges ar bysellfwrdd a roedd y testun yn cael ei ddanfon drwy’r rhwydwaith ffôn i argraffydd ar y pen arall. Ta waeth, mae e hefyd yn enw ar un o arloeswyr electro-pop y ganrif ddwetha’. Meddyliwch am Kraftwerk gyda hiwmor sy’n llai sych a difrifol.
Un o’i senglau mwya’ oedd Moskow Diskow a mae gen i frith gof o weld ei perfformiad hynod ar gystadleuaeth yr Eurovision yn 1980. Wnaethon nhw ryddhau 5 albwm cyn ‘gorffwys’ yn 1986.
Wel mae’r band o wlad Belg nôl gyda albwm newydd, sydd yn gymysgedd o electronica gyda dylanwadau o gerddoriaeth dawns mwy diweddar. Gwrandewch ar glipiau o’r caneuon newydd a phodlediad difyr ganddynt.
Gan Dogfael 24 Mai 2006 - 8:09 am
Hoff iawn o’r disgrifiad o Telex fel Kraftwerk gyda hiwmor!
Diolch am y wybodaeth ychwanegol am Telex. Dwi’n ofni nad oedd gen i syniad o beth oedd enw’r grŵp hyd imi ddod o hyd o fideo o’u perfformiad ar y we, ond roeddwn i’n cofio’r perfformiad yn iawn. Roedd yn un o uchafbwyntiau cystadleuaeth cân Eurovision i mi – fel y caneuon cyntaf mewn Romansheg a Chatalaneg yn y gystadleuaeth – ac o’r herwydd yn gwbl fyw yn y cof ar ôl yr holl flynyddoedd.
Gan Johnny R 9 Gorffennaf 2006 - 6:40 pm
Nes i gyrru TELEX fewn cwrs cyfrifiadur gynnar yn Coleg Menai Fangor, bach o ‘thrill’ achos rhaid i fi a boi o wrecsam mynd fewn stafell genod (?) sy’n dilyn cwrs hamdden (sut i gweithio fewn swydd asient teithio), lot o lol am gyrru ‘Telex Go Iawn’ i cwmni Deithio Llandudno, (yn dderbyn sdwff coleg menai)..teimlad rhyfeddol ar y pryd..yn mynd adref swanced yp fod ni wedi gyrru TELEX i’r byd ‘go iawn’. All went pear shaped achos fy met wedi cael ‘jobyn trin gwallt’ o rhyw secsi chic..yn anffodus roedd y ‘cyt bowlan’ dim mor secsi a’r ferch swil, nath fy met gwisgo het baseball ym drop fis i cuddio’r cyt. Tua 1992ish, fy ges i MVQ neu rbeth am cwrs ychwangeol..piss easy.