Mae safon newyddiadurol BBC Cymru’r Byd yn dipyn o jôc ers rhai blynyddoedd a mae safon ei Cymraeg yn hynod o anwastad hefyd. Falle sdim lle ‘da fi i gwyno am safon yr iaith ond sneb yn talu fi i sgrifennu yn Gymraeg nag oes?
Enghraifft dda mewn stori bore ‘ma. Mae nhw’n sôn am ‘system imiwneiddio wan’. Beth? Nes ymlaen mae nhw’n newid eu meddwl a dweud ‘system heintrydd’ (iawn, dyfynnu rhywun mae nhw). Dwi’n credu fod yr ail derm yma yn gywir er fod ‘imiwnedd’ yn llawer fwy poblogaidd a dealladwy.
A wedyn mae nhw’n mynd ymlaen i ddyfynnu’r un person sy’n dweud ‘systemau imiwneiddio wan’. Wos goin’ on?
Gan johnny r 25 Tachwedd 2005 - 12:50 am
Nath rhywun taflu botel at Jonsi/josg band gwael Frizbee mewn gwyl ganol y ffordd (Mawredd Mawr RC), eleni. Mae’n amlwg fod y ‘ric-o-chez’ wedi roi clec i aelodau adran newyddion ‘allan ar y lysh’ am y noson! Mae’r ‘newyddion’ braidd yn sanctaidd yn fy mharn i, yr unig peth o safon da’r BBC ar ol dan ofal Menna ‘HTV’ Richards a cretin pathetig Aled Glyn ‘bobpeth yn fy cysgod i’ Dafis. Mae’n hen bryd i orsaf ‘onest’ a safonol darlledu yn y gymraeg godi rwle, yn hytrach na tria cystadlu gyda pants fel Champion FM (Fel Radio Cymru yn trio neud). Ella fy rant dim yn perthnasol, coz my Gymraeg is wel dodgy ond mae ‘swyn’ radio ‘one on one’ di cael ei racso gan Bryn Meirion/Llandaf ers yonks..troi yn dy bedd Wil Sam!!
Johnny R
Gan Huw Waters 25 Tachwedd 2005 - 12:54 am
Pam na wnei di Mr. R speraheadio gorsaf Gymraeg newydd?
Gan dafydd 25 Tachwedd 2005 - 10:10 am
Mae newyddion BBC radio a theledu yn safonol iawn wrth gwrs a mae lot o ohebwyr ifanc yn cael hyfforddiant da iawn yno (gwastraffwyd ar Angharad Mair wrth gwrs).. felly dwi ddim yn gwybod be sy’n mynd ymlaen gyda bbc ar lein.
Gan johnny r 26 Tachwedd 2005 - 8:10 pm
Rhy hen..hen goes..fy aeliad wedi mynd.
Gan Chris 30 Tachwedd 2005 - 4:38 am
Ah, wel, mae hyn yn esbonio pam fy Nghymraeg ydy mor drwg — dw i’n defnyddio’r gwefan hyn i ymarfer.
Gan johnny r 30 Tachwedd 2005 - 10:34 am
Os siop ail law hen recoriau 7″ yn MN? Os mae nhw, fyddai dalu di $6000.00c am gopi o The Magnetics ”Lady In Green” ar label Bonnie.(1966), neu swopio di am gopi o out takes Iwcs o stiwdio Gwynfryn ..ella dim!
ffydd
Gan Johnny R 2 Rhagfyr 2005 - 1:39 am
Wrth gwrs roedd Daf/Curiad ‘Ar Lein’ cyn BBC Radio Cymru yn sylweddoli fod y we yn fodoli!!Efallai dyna’r gwir bwriad y dadl?? Cofia cysylltu a 029 20555515 am cloc hiraethus
R