Mae yna un neu ddau gwefan wedi’i creu yn y gorffennol i ddangos cysylltiadau cerddorol rhwng bandiau ac argymhellion wedi seilio ar hynny, ond mae Pandora yn gwneud hyn mewn ffordd slic iawn.
Daw’r gerddoriaeth o’r prif labeli rhan fwyaf felly wnes i ddim dod o hyd i unrhywbeth Cymraeg, heblaw am stwff saesneg gan y Gorky’s er enghraifft. Mi fase’n dda petai rhywun yn gallu darganfod cerddoriaeth Cymraeg drwy wasanaeth fel hyn – mi fyddai’n bosib i labeli ddanfon eu cynnyrch i fewn.
Gol: Newydd ddarganfod fod y broses tanysgrifio yn gofyn am eich zip code er mwyn cadarnhau eich bod yn yr UDA. Mae’n hawdd osgoi hyn drwy chwilio am zip code dilys (mae yna un weddol enwog oedd mewn cyfres deledu 🙂
Gan Rhodri ap Dyfrig 22 Tachwedd 2005 - 11:07 pm
All Music Guide dwi’n ei ddefnyddio. Dwi wedi ffeindio hwn yn hynod ddefnyddiol.