Daeth sengl nadoligaidd drwy’r post o label R-Bennig. Yn ôl y datganiad mae R-bennig wedi ryddhau dros 30 o deitlau (mor belled) flwyddyn yma a nawr dyma sengl (R-BEN 092) i gloriannu’r cwbl. Ryw fath o drip meddw drwy gêm darts yn y dafarn leol yw hwn.
Aelwyd Anal Arts - Gêm On Hogia!
[2.72MB]
Gan Johnny R 16 Tachwedd 2005 - 12:52 am
Mi fydd R-bennig yn ymddangos ar rhaglen ‘sbeshal’ ar cerddoriaeth electronig ar Bandit wythnos yma 17/11/2005 yn ol y si, yn anffodus na fydd John Grindell yw gweld yn ‘swyno’ ei offer, mae hefyd dau CD arall fy stabl bach allan ar gyfer dolig ’05 h.y. The Llanfairfechan Allotment Trashers meet The North Wales Theremin Orchestra gyda ”Hobnails A Go-Go” R-BEN 098 a CD amlgyrannog o is-stabl R-Bennig ger 1994 sef STATWS ”DIM LOGO, OND AGWEDD” R-BEN 099 gyda sdwff Y QUANGO ac ati ar ol y diddordeb ar y safwe yma! Ffydd, Johnny R.
O.N. Fydd dim hysbyseb cawslyd TV fel Sain yn brolio am dodgy corau ac (poeri) Elin Moniars ac ati ar S4C i coroni’r sbloetsh!