Dwi’n mwynhau darllen a gwrando ar flog Chris Cope yn fawr iawn. Wrth ddal i fyny gyda rhai o’i negeseuon heno wnes i ystyried pa mor sampladwy yw ei ‘bostiau clywedol’, yn enwedig gyda’r newid sydyn o acen Cymraeg i saesneg Americanaidd.
Felly es i chwarae am ryw awr i greu trac bach syml munud o hyd. Dyma fe ‘te:
Cymal 3 - CC1
[1.16MB]
Gan Nic Dafis 3 Tachwedd 2005 - 5:07 pm
Ha!
Gan Mair 3 Tachwedd 2005 - 5:32 pm
Danco, methu clywed e yn gwaith… (plîs gwed fod gen ti dijeridw yn y mics yn rhywle?)
Gan dafydd 3 Tachwedd 2005 - 6:02 pm
Wnes i drio rhoi’r dijeridw fewn ond doedd e ddim cweit yn ffitio.. ond nid dyma ddiwedd y chrisfics.. 🙂
Gan Chris 3 Tachwedd 2005 - 6:05 pm
Wow. Mae hyn yn gwych! Diolch. Mae’n fel un o fy mhostiau clywedol heb bod mor diflas. Fe ddylet ti’n teimlo rhydd i defnyddio fy mhostiau clywedol unrhywbryd ti eisiau. Wyt ti erioed clywed fi’n chwarae y dijeridoo?
Gan DJ Lambchop 5 Rhagfyr 2005 - 11:04 pm
Tiwn!
Be yw’r BPM?
Gan dafydd 5 Rhagfyr 2005 - 11:57 pm
120 fel y traciau eraill am mod i’n rhy ddiog i newid Acid Pro o’r bpm arferol…