Roedd erthygl ddoe yn y Guardian lle roedd ymchwil yn dangos fod pobl cafodd eu geni ym mis Mai yn credu eu bod yn fwy lwcus. Y syniad dwi’n credu yw fod rhai pobl yn dueddol o bwysleisio bethau ‘da’ sy’n digwydd a fod hynny yn atgyfnerthu’r syniad o fod yn lwcus.
Fel un gafodd ei eni ym mis Mai, rhaid dweud mod i’n cytuno ar y cyfan – dwi’n berson optimistig ac yn dueddol o weld y gorau o bopeth. A dwi’n gweithio gyda pesimist mwya’r byd (a gafodd ei eni ym mis Rhagfyr).
Ar ben hynny, fe wnaeth ymchwil Yr Athro Richard Wiseman ddarganfod fod y Cymry yn fwy lwcus na phawb arall ym Mhrydain (wel mi roedden ni’n gwybod hynny yn barod). Mae llawer o’r ymchwil ar gael yn y llyfr The Luck Factor (yn anffodus mae’r profion ar y wefan honno wedi torri).
Gan BoB 26 Hydref 2005 - 7:42 pm
Fel un gafodd ei eni yn yr un mis â ti (y pedweryd ar ddeg, fact fans!), rhaid dweud nad un nodweddiadol o’n criw ydw i. Mymbl, blydi grymbl.
Gan dafydd 26 Hydref 2005 - 7:58 pm
Er fod Prof Wiseman yn wyddonydd o fri, dwi’n amau’r ymchwil braidd. Mae canlyniadau’r arolwg yn dweud fod 50% o’r rhai anwyd ym mis Mai yn ‘lwcus’ sy’n disgyn i 43% ym mis Hydref. Mae hynny’n awgrymu i fi nad oes effaith amlwg ar bobl Mai ond fod bias yn erbyn babanod y Gaeaf.