Mae Google wedi lansio ei chwiliad blog – er fod canlyniadau wedi eu cynnwys fel rhan o chwiliad arferol Google ers peth amser. Oes, mae cyfieithiad Cymraeg o hwn ar gael ond mae’n edrych fel nad yw Google wedi troi’r ieithoedd arall ymlaen eto.
Be sy’n werth nodi yw pa mor gyflym mae Google yn diweddaru eu canlyniadau o flogiau i gymharu a tudalennau gwe arferol. Er, dwi ddim yn gwybod os oes yna unrhywbeth unigryw na gwahanol i’w gynnig gan Google yma, gan fod gwasanaethau fel Technorati wedi cynnig chwiliadau tebyg ers peth amser.
Gan Nic Dafis 15 Medi 2005 - 5:22 pm
Tybed a fydd Google yn defnyddio hyn fel esgus i leihau Pagerank blogiau yn ei brif ganlyniadau?