Dyna’r frawddeg fyddwn ni’n clywed flwyddyn nesa ar S4C mae’n debyg, wedi i’r sianel arwyddo cytundeb gyda gwmni emuse o’ Iwerddon ar gyfer ei meddalwedd sy’n greu gwasanaethau ‘botwm coch’ i deledu. Mae’n rhyfedd ei fod wedi cymryd cyhyd i S4C ymuno gyda’r chwyldro – mi wnes i weithio ar beilot o wasanaeth rhyngweithiol i S4C yn 1999, lle fyddai canlyniadau’r cystadlu ar gael drwy’r botwm coch. A hyn i gyd i’w ddatblygu mewn dwy fis, gan ddechrau gyda ‘cwrs carlam’ (dau ddiwrnod!) mewn sut i raglennu MHEG, sef un o’r ieithoedd rhaglennu mwya’ diawledig a ddyfeisiwyd erioed.
Mi roedd hyn ychydig bach o flaen yr amser fel mae’n digwydd – roedd hyn cyn i unrhyw sianel deledu arall lansio unrhyw wasanaeth digidol a felly roedd hi’n ddyddiau cynnar i’r meddalwedd a’r diwydiant ei hun. Roedd angen cyfarpar allweddol gan Sony er mwyn gallu cyfuno’r gwasanaeth i fewn i blethiadu teledu digidol a dim ond un oedd ar gael drwy Brydain ar y pryd. Fe roedd hwnnw ym meddiant Channel 4 a roedden nhw’n brysur iawn yn trwsio’r namau i gyd er mwyn lansio’r gwasanaeth. Gan fod yr Eisteddfod yn prysur agosáu roedd hi’n amhosib gorffen y gwaith yn yr amser, ond fe adeiladwyd system arddangos yn unig gan ddefnyddio meddalwedd oedd yn dynwared bocs digidol.
Dwi’n edrych ymlaen felly i weld sut fath o wasanaeth fydd S4C yn ei ddatblygu – fe fyddai fersiwn digidol o ‘Teletestun’ yn beth defnyddiol i gael, fel man cychwyn.