Tra’n syrffio Technorati, des i ar draws cofnod gan girl_virgo yn adrodd hanes ei ymchwil i’r enw Dinbych-y-Pysgod a’i darganfyddiad o wefan Insultmonger.
Dwi ddim wedi cysylltu i’r wefan am fod e’n trio gosod pob math o gachu ar eich cyfrifiadur ond nifer o’r cofnodion Cymraeg wedi ei sgyfieithu e.e. “Sugno fy nhi’n i cachwr” – wel mae na enw am hynny ond wnai ddim ei sgrifennu yma. Mae yna rai eraill eitha doniol fel “Bronnau fel bryniau Eryri” ond mae rhan fwyaf yn gyfieithiadau o slang Americanaidd.
Ta beth, dwi wedi gadael neges iddi i dynnu’i sylw at fodolaeth y Rhegiadur.
Gan Kimberley-Jayne (a.k.a girl-virgo) 1 Medi 2005 - 12:40 pm
Mae’r Rhegiadur yma yn wneud fwy o synwyr na’r ‘Swearsaurus’ Cymraeg sydd ar y wefan arall!
Mae yna geiriau dda yn fan hyn…rhan fwyaf ohonyn nhw dydw I heb glywed o’r blaen!
Dydw I ddim yn rhegi llawer, ond gall rhai o’r eiriau yn y Rhegiadur fod yn ddefnyddiol iawn mewn rhyw sefyllfa yn y dyfodol!
Diolch 🙂