Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth yng nghyfrwng fy mamiaith cyn tua 1990 (am nad oeddwn i’n ffan mawr o roc, ar y pryd). Ond pan glywes i Eirin Peryglus.. waw synthpop Cymrâg!
Dyma ddau gân gan y grŵp hynny oedd yn sefyll allan ar y pryd (yn bennaf am fod Nia Melville yn eu chwarae o hyd) – Y Cyfarfod a Epilog yn A Fwyaf – mae yna bob math o bethau yn mynd ymlaen yn yr ail… synthpop gyda sampls, bach o decno blips, gitâr jangli a solo trwmped jazz. Roedd rhain ar EP 12″ gafodd ei ryddhau yn 1989 ar label Ofn (OFN 07B).
Eirin Peryglus - Y Cyfarfod
[4.82MB]
Eirin Peryglus - Epilog yn A Fwyaf
[7.04MB]
Gan Blewyn 7 Medi 2005 - 12:34 am
Diawl r’on i’n meddwl fod gen i’r caneuon yma, ond wedi edrych ar y compiwtar mae’n rhaid i mi heb fod wedi eu recordio (a mae’r 12″ mewn bocs yn rhywle yn Deeside). Unrhyw jans fedri di bostio’r caneuon eraill hefyd ?
Mae gen gopiau MP3 o’r 12″ ‘IsHarmonig’ gan y Plant Bach Ofnus – sydd yn fy marn i yn well na’r record Eirin Peryglus. Tisho nhw ? Ydy hi’n OK (hy yn gyfreithlon) i’w rhannu ?