Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod fe fydd lansiad Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, “i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r deunydd sydd ar gael yn yr iaith”. Mae hyn yn gam bwysig ymlaen nid yn unig i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg ond sicrhau safonau agored. Gobeithio hefyd fydd yna bwyslais ar fanteision datblygu meddalwedd agored gan fod hynny bob amser yn gwneud y gwaith o gyfieithu yn haws.
Gan Nic Dafis 26 Gorffennaf 2005 - 11:05 pm
Oes amser wedi’o osod am hyn? Gobeithio fydd hi ddim yn clasho gyda’r Talwrn. 😉
Gan dafydd 26 Gorffennaf 2005 - 11:55 pm
4.30 yn ei pabell nhw (ddim yn siwr iawn le yn union fydd hwn). Yn anffodus fyddai ddim fyny ar y Sadwrn cynta flwyddyn yma 🙁
Gan Dewi B Jones 29 Gorffennaf 2005 - 7:33 pm
Dros ffordd i’r babell ryngwladol a dim yn bell o’r babelli fwyd a’r bar 🙂