Mae BT wedi cyhoeddi mai De Cymru fydd y cynta ym Mhrydain i gael ei newid i’r rhwydwaith ffôn newydd fydd yn defnyddio technoleg llais dros IP a fydd felly yn trin llais fel unrhyw wybodaeth arall ar y rhwydwaith newydd. Fydd dim byd amlwg yn newid yn y dyddiau cynnar ond gobeithio mai un o’r camau cynta fydd codi’r cyfyngiad ar amleddau llais (wedi gyfyngu i tua 3.2KHz drwy’r hen system ffôn) a gwneud sgyrsiau ffôn ychydig mwy pleserus.
Tra mod i’n trafod BT, mae gwefan “BT Cymru” yn ofnadwy. Mae gwefan BT i gwsmeriaid wedi ei ddatblygu yn eitha da, gyda ymdrech (anllwyddianus weithiau) i roi wyneb Cymraeg ar y wefan os ydych chi’n dewis hynny.
Ond mae gwefan gorfforaethol BT PLC yn gwneud pob camgymeriad mae’n bosib gwneud. Baneri Jac yr Undeb a Chymru ar gyfer newid iaith yw’r faux pas cynta o nifer. Ar ôl newid iaith i Gymraeg mae mynd i dudalen arall yn mynd syth nôl i’r saesneg! A mae nhw wedi dyfeisio gair newydd – “Ffô’n”.