Yn fy arddegau o’n i’n hoff o wrando o gerddoriaeth (o’r radio neu dâp) yn y gwely, yn y tywyllwch, cyn syrthio i gysgu – dwi’n siwr fod yna fantais o dorri allan y synhwyrau eraill, mae’r gerddoriaeth yn treiddio yn ddyfnach i’r psyche rhywsut.
Dyma un o’r traciau sydd wedi llosgi i’r meddwl – y teitl trac oddi ar EP Ecsentrig gan A5 (R-BEN 19, 1992).
A5 - Ecsentrig
[6.17 MB]
Gan Rhodri ap Dyfrig 6 Gorffennaf 2005 - 12:33 am
Diolch am hwn. A5 – “Adroddiad Du” yn un o’n hoff recordiau o’r adeg hynny
Gan Seiriol 12 Gorffennaf 2005 - 10:38 am
Mae gen i “ddefod” debyg cyn mynd i gysgu – creu playlist o dair cân a cheisio cwmpo i gysgu cyn diwedd y drydedd. Mae’n anodd cyflawni hynny yn y gwres yma.