Blaidd Drwg

Dwi wedi cerdded fyny Parc y Gamlas ym Mae Caerdydd bob dydd gwaith ers blynyddoedd ar y ffordd i’r, wel, gwaith. Ddydd Gwener wnes i fentro ychydig ymhellach fyny’r parc i gael ychydig o luniau o graffiti enwog a roddwyd yno ar gyfer Dr. Who. (Mae yna ddamcaniaeth fod y graffiti yno’n barod a mai Bad Wolf yw tag rhywun o’r ardal, ond dwi ddim yn gwybod os yw hyn yn wir).

Fe roedd y lleoliad o gwmpas Sgwâr Loudoun yn eitha pwysig i’r bennod olaf. Ie, dwi’n gwybod fod hyn yn drist, ond mae’r lluniau gymerais i ar flickr.

Postiwyd y cofnod hwn yn Ffuglen wyddonol, Lluniau, Teledu. Llyfrnodwch y paraddolen.