Mi fydd Yahoo, perchennog Geocities yn cau lawr y wefan ar ôl heddiw, a gyda hyn mi fydd llawer o wefannau Cymraeg cynnar yn diflannu.
Fe roedd Geocities yn boblogaidd iawn gyda bandiau, labeli a ffansîns Cymraeg, yn cynnwys Fitamin Un, Welsh Bands Weekly, Brechdan Tywod, Radio Amgen, Llwybr Llaethog, Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, Zabrinski, GHR2 a mwy.
Mae yna nifer o brosiectau wedi ceisio cadw archif o Geocities cyn iddo gau lawr, a mae’r Internet Archive yn le da i gychwyn (er fod bylchau ynddo yn enwedig gyda’r lluniau). Dwi wedi creu archifau fy hun dros y blynyddoedd, nid yn unig o wefannau ar Geocities ond o wefannau Cymraeg arall sydd wedi diflannu. Efallai ga’i gyfle i’w atgyfodi nhw rhywbryd.
Nic Dafis
ar Hyd 26, 2009
@ 21:08:
Wyt ti wedi gweld xkcd heddi?
Nic Dafis
ar Hyd 26, 2009
@ 21:10:
Hefyd: mae’r tudlaen ‘ma yn cael ei godi.
Dafydd Tomos
ar Hyd 26, 2009
@ 21:37:
Diolch Nic! Dyna’r union ddau ddolen aeth rownd y swyddfa heddi. Mae Geocities wedi marw, hir oes o’r GIF animeiddiedig.
Huw Waters
ar Hyd 27, 2009
@ 21:25:
Hiraeth…
Geocities oedd y lle ble’r oeddwn yn copio a gludo sgriptiau JavaScript etc. a chwarae o gwmpas.
Yn ogystal â’r GIFiau animeiddiedig, mae’r botymau “Best Viewed with Netscape” etc. fel sydd i’w weld yma http://web.archive.org/web/19961022175004/http://www07.excite.com/
Y Geocities Nesaf | Quixotic Quisling
ar Hyd 28, 2009
@ 01:33:
[...] dal yn meddwl bod Cymraeg yn eitha dawel arlein. Collon ni safleoedd Cymraeg ar Geocities (darllena post Geocities gan Dafydd). Dw i’n meddwl am y canlyniadau – am y we [...]