daflog

  • Cyhoeddwyd: Mai 22, 2009
  • Categori: Cymraeg, Y We
  • Sylwadau: 1

Golwg 360 beta

Dwi’n sylwi fod Golwg 360 wedi ei nodi fel ‘beta’ nawr a fod y dylunio wedi ei addasu yn agosach i fy awgrym i. Ond allwch chi ddim gwneud llawer o welliannau i’r wefan fel mae ar hyn o bryd – mae angen sgrapio’r cynllun yma a chyflogi dylunydd proffesiynol i roi ‘golwg’ newydd cyfoes i’r wefan.

Mae’r cwestiwn yn codi felly.. pam lansio gwefan oedd ddim wedi ei orffen a chreu gymaint o heip, hysbysebu ar fysiau ac yn blaen? Mae Golwg Newydd Cyf wedi dangos nad oedd ganddyn nhw unrhyw syniad sut i greu gwefan dda a mae nhw nawr yn dibynnu ar awgrymiadau darllenwyr ar beth i wneud.

Mi fasen i a nifer o bobl eraill yn y diwydiant cyfryngau newydd wedi bod yn hapus i brofi fersiynau cynnar o’r wefan er mwyn cynnig awgrymiadau a syniadau ar gyfer y dylunio, technoleg a chynnwys y wefan. Mi fase pawb sydd eisiau gweld y wefan yn llwyddo wedi bod yn fodlon rhoi y fath ymgynghoriad am ddim dwi’n siwr. Dwi ddim yn siwr faint fase hynny wedi ei gyflawni gan mod i’n dechrau amau pwy adeiladodd y wefan ac os mae rhywun yn Tinopolis wnaeth neu a gafodd ei raglennu yn rhad gan rywun yn India?

Ond gwell peidio cwyno gormod, mae nhw wedi bod yn destun sbort am amaturiaeth ei prosiect ond dwi’n siwr y bydd cyfarwyddwyr cwmni Golwg Newydd wedi dysgu’r wers. Dwi’n byw mewn gobaith.

  • Cyhoeddwyd: Mai 17, 2009
  • Categori: Cymraeg, Y We
  • Sylwadau: 1

Golwg Arall

Yn yr wythnos ddiweddaf dwi wedi bod yn gwylio Nasa TV lle mae’r gofodwyr ar y wennol ofod (nid ‘llong ofod’ fel mae Golwg yn dweud) yn trwsio a diwygio telesgôp Hubble. Mae nhw’n arwyr yn wir, yn dygymod a phob math o broblemau yn yr amgylchedd di-gyfaddawd mewn ffordd trefnus, amyneddgar a gofalus.

Yn wahanol i deithio i’r gofod, dyw creu gwefan ddim yn ‘rocket science’. Oes mae yna heriau, problemau, gwallau annifyr a mi all fod yn broses hir a phoenus. Er hyn os ydych chi’n: adeiladu tîm da o’ch cwmpas; dewis technoleg addas; defnyddio dulliau synhwyrol o ddatblygu meddalwedd – mae’n bosib creu gwefannau cymleth iawn mewn ychydig fisoedd.

Dros y penwythnos dwi wedi datblygu gwefan sy’n cymeryd y cynnwys o wefan Golwg 360 a’i gadw mewn cronfa ddata WordPress. Mae hyn wedi cymeryd tua 6 awr i ddatblygu sgriptiau Perl sydd yn ‘crafu’ y testun a’r lluniau oddi ar wefan Golwg. Roedd hyn yn llawer mwy trafferthus nag oeddwn i’n ddisgwyl oherwydd y llanast o HTML a CSS sydd yng nghrombil y wefan. Roedd tipyn o waith profi ac ail-brofi er mwyn cael testun y newyddion allan mewn fformat call. Fe gymerodd hi tua awr i greu blog WordPress gyda patrymlun addas.

Felly, hoffwn i gyflwyno Golwg Arall. Dwi’n credu fod y straeon yn fwy darllenadwy ar y wefan, er nad oes ganddyn nhw y ‘categorïau’ sydd yn wefan Golwg. Er mae’r calendr a’r porthiant RSS yn gwneud hi’n llawer mwy defnyddiol na’r wefan swyddogol.

Mwynhewch!

  • Cyhoeddwyd: Mai 15, 2009
  • Categori: Cymraeg, Y We
  • Sylwadau: 4

Golwg Newydd

Pan o’n i yn fy arddegau cynnar roeddwn i’n darllen cylchgrawn Golwg yn frwd, ond roeddwn i bob amser yn siomedig gyda ansawdd y dylunio. Roeddwn i’n cyhoeddi rhyw gylchronnau ffug, tanddaearol fy hunan gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi pen-desg (DTP) ar fy Acorn Risc PC.

Roeddwn i’n siwr y gallwn i wneud yn well na’r bobl oedd yn gweithio yn Golwg ar y pryd a felly es i ati i ail-ddylunio dau dudalen o Golwg a’i ddanfon iddyn nhw. Wnes i ddim clywed nôl.

Fe wnaeth dyluniad Golwg wella (ychydig) dros y blynyddoedd a wnes i sylweddoli mai hoffi’r dechnoleg ar gyfer dylunio cyfrifiadurol oeddwn i yn bennaf a dyna pam dwi wedi cydweithio gyda dylunwyr print/gwe ers dros ddegawd yn hytrach na esgus fod gen i ryw dalent artistig fy hunan.

Nawr fod gwefan Golwg 360 wedi lansio dwi unwaith eto yn teimlo’r siom yna o weld dylunio amaturaidd gan y cwmni o Lambed (er mai Tinopolis sy’n gyfrifol am y wefan). Dwi wedi twrio i god y wefan a mae’n eitha amlwg nad oes yna llawer o feddwl wedi mynd mewn i’r dylunio. Mae yna ddefnydd helaeth o dablau HTML a cymysgedd o CSS mewnlein ac allanol a dewis rhyfedd o steil a maint ffontiau. Does dim dychymyg o ran lliwiau a mae golwg reit salw ar y peth – nid beth sydd angen ar wefan lle mae rhaid cyflwyno llawer o wybodaeth mewn dull cryno ac effeithiol.

Golwg 360

Fe es i ati unwaith eto felly i addasu’r cynllun – newidiadau bach iawn dwi wedi gwneud fel newid arddull y ffontiau a twtio’r bylchau. Gan fod y dyluniad yn benthyg rhai syniadau o’r Guardian, pam ddim mynd amdani yn llwyr a benthyg y lliwiau ar gyfer y prif adrannau? Mi wnes i hefyd ddewis lluniau newydd o ansawdd gwell. Mae’n anodd iawn gwneud llawer a’r wefan fel mae hi oherwydd fod y cod HTML/CSS mor wael. I fi, mae’n edrych yn llawer mwy ‘darllenadwy’ fel hyn.

Felly, mae gen i ddau sgrîn-lun ‘cyn’ ac ‘ar ôl’. I weld rhain yn iawn gwnewch yn siwr eu bod nhw ar eu maint llawn – 100%. Dyma’r dyluniad gwreiddiol a dyma’r dyluniad newydd.

Beth yw eich barn chi?

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site