Oasis vs Take That

Dwi’n gyfrifol am letya gwefan sy’n gwerthu ticedi. Nawr mae’n wefan weddol brysur ond dim byd allan o’r arfer (allan o 150 gwefan dwi’n gynnal, mae e tua 15fed ar y rhestr). Yn yr wythnos ddiwethaf mae’n amlwg y bydd rhaid edrych eto ar letya’r wefan, o weld patrwm ei ddefnydd.

Yn gynta, fe aeth tocynnau gig Oasis yn Stadiwm y Mileniwm ar werth. Dim ond rhyw 50 tocyn oedd ar gael drwy’r wefan acwrth gwrs roedd pawb yn cyrraedd yr un amser yn benderfynol o gael ei archeb fewn. Fe ddaeth hi’n amlwg fod y wefan yn brysur iawn o 10 y bore ymlaen am tua awr (pan werthwyd y cyfan). Er fod y ‘llwyth’ ar y gweinydd yn reit uchel, fe wnaeth y system ymdopi a ro’n i’n meddwl mai dyna ddiwedd y peth. Wnes i nodi y byddai angen symud y wefan i weinydd mwy pwerus a roedden ni am drafod hynny gyda’r cwsmer.

Wythnos yn ddiweddarach, dyna’r un peth yn digwydd eto (am 9 y bore tro ‘ma). Fe fydde wedi bod yn neis cael cael gwybod o flaen llaw. Daeth hi’n amlwg yn eitha cyflym mai Take That oedd ar fai tro ‘ma. Roedd y wefan yn cael llawer mwy o geisiadau am y tocynnau yma, gymaint fel fod ein system awtomatig yn torri fewn er mwyn cyfyngu’r pwysau ar y gweinydd. Ar ôl ychydig o newidiadau bach i gyflymu’r wefan roedd popeth o dan reolaeth erbyn 10 ac erbyn canol dydd fe werthwyd y cyfan o’r nifer cyfyngedig o docynnau oedd ar gael drwy’r wefan.

Felly mae Take That yn curo Oasis, o leia ym mrwdfrydedd ei ffans. Erbyn y ‘tro nesa’ fydda’i wedi symud y wefan i weinydd arall sydd a ychydig fwy o le i ehangu iddo.

Lluniau 360°

O’n i’n chwilio Google am bethau ar hap i wneud a Chaerdydd a des i ar draws lluniau 360° o Gaerdydd (dim byd newydd ond mae rhain yn rhai neis a wedi ei tynnu yn ddiweddar). Dyma lun o Heol y Brodyr Llwydion, lle dwi’n gweithio a mae dolenni i lefydd eraill yn y ddinas.

Ond i gyfuno gyda pwnc arall cyfredol, sef Scymraeg, sbotiwch yr arwydd anghywir yn y llun!

S4C mewn manylder uwch

Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.

Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 – heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.

Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn HD?