Dwynwared #2

Cwpl o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth y gwerthwyr tai Peter Alan ail-lansio ei gwefan. Alla’i ddim hawlio mod i wedi gweithio ar hwn rhyw lawer ond dwi’n gyfrifol am reoli ei gweinydd, sydd yn brysur tu hwnt. Mae 80% o’r traffig yn dod o’r canghennau ei hunan ond mae canran sylweddol yn dod o feddalwedd awtomatig neu ‘bots’ sy’n crafu’r wybodaeth er mwyn ei gynnwys mewn gwefannau arall.

Mae hyn yn ffordd amheus o gael ffynhonnell wybodaeth am ddim ond mae’n cael ei oddef am ei fod yn gallu gyrru traffig i’r wefan wreiddiol. Peth arall yw dwyn dyluniad gwefan yn gyfan, fel mae’r cwmni yma o Gaerdydd wedi wneud. Mae’n ddiddorol nodi fod graffeg botymau’r fwydlen wedi ei ddwyn o rywle arall, sef Fasthosts. Mae’r cwmni Property-Direct.co.uk wedi mynd i’r wal erbyn hyn er fod y wefan dal yn fyw.

Dwynwared #1

Tra’n edrych am faner Catalonia bore ‘ma, fe wnaeth cyd-weithwyr ddod ar draws gwefan sy’n rhoi gwybodaeth am ardal Gogledd Catalonia, sy’n rhan o Ffrainc yn wleidyddol ond yn ieithyddol yn rhan o wledydd y Catalan.

Roedd y wefan yn edrych yn hynod o gyfarwydd i mi. Yn wir mae’r wefan yn gopi neu ddynwarediad o wefan wnes i weithio arno am flynyddoedd, sef hen wefan y Bwrdd Croeso. Mae nhw wedi newid graffeg y pennawdau gyda union yr un arddull a chadw’r dylunio yr un fath heblaw am y cynnwys a’r lluniau wrth gwrs.

Fe ddiflannodd y fersiwn yna o wefan y Bwrdd Croeso (nawr yn Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru) yng nghanol 2002, felly mae’n rhaid fod y dynwarediad Catalanaidd tua 5 mlwydd oed.