Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd - 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma - http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.

14 Sylw i'r cofnod “Radio curiad”

  1. Meddai Nwdls:

    Super chouette!!

    Jest y peth i sdicio mlaen yn gwaith. Gesh i bach o drafferth efo iTunes i gychwyn felly newidiais i Windows Media Player. Dio ddim yn rhoi enwa artist a trac ddo.

  2. Meddai Aled:

    Mae’n gweithio yn iawn yn iTunes 7 (y fersiwn mwya diweddara)

  3. Meddai dafydd:

    Gret! Wnai arbrofi gyda iTunes o adre - mae’n bosib fod muriau diogelwch o fewn rhai colegau/cwmniau yn creu trafferthion hefyd.

  4. Meddai Fflamingo Gwyrdd:

    iTunes agorodd yn otomatig ar fy lloptap i - ac mae o i weld yn gweithio’n dda

  5. Meddai Huw Waters:

    iTunes ar Mac yn gweithio.

    Tydi VLC (Video LAN) ddim yn gweithio.

  6. Meddai Johnny R:

    Diddorol tu hwnt! Cofia radio-D, yn personol rwi’n hoffi y ’siarad a malu cachu’ am dull radio, hyd yn oed ar y we. Heb hwnna ti’n basically bwtlegio pawb heb dalu. Merky byd, a bob llwyddiant, fydd arian parod yn handi iawn ar gyfer dolig! Wedi arwyddio gyda PPL/PRS/MCPS a ballu am digi-downloads…0.15c y blwyddyn siwr o fod! Radio-D 2000 the original welsh net show!

  7. Meddai Nwdls:

    Un peth: ma na ganeuon yn dod fyny a sdim syniad gen i pwy ydyn nhw.

    Can 1: “Dwi di bod yn cerddad efo nghria ar agor a dwi dal heb faglu. Dwi di bod yn byta a canu r’un pryd a dwi dal heb dagu’ - pwy?

    Can 2: Boddi cathod mewn sach - pwy?

  8. Meddai dafydd:

    Ddim yn siwr am can 1.. ond mae can 2 gan Tom Vilma. Mae WinAmp fel llawer o chwaraewyr yn dangos enw y trac/artist.

  9. Meddai Nwdls:

    Diolch! Rioed di clywed amdano fo o’r blaen. Dwi’n cymryd yn ganiataol o’r gan Usual Suspects fod o’n gneud hyn sawl mlynedd yn ôl bellach?

  10. Meddai sanddef:

    Pa feddalwedd dach chi’n defnyddio i ddarlledu?

  11. Meddai dafydd:

    Winamp gyda rhestr chwarae o MP3s ar y peiriant lleol, gyda ategyn Oddcast er mwyn darlledu i weinydd Icecast. Mae’r gweinydd yna wedyn yn rhoi’r ffrwd sain i’r gwrandawyr.

  12. Meddai Hedd:

    Ma hwn yn Wych. Mae’n gweithio’n iawn ar Itunes (a agorodd yn awtomatig ar y PC) ond yn anffodus nid oes enwau traciau yn ymddangos! :-(

    O( ran diddordeb, beth yw’r dêl o ran hawlfraint ayb? A ywe e’n iawn ail-ddarlledu unrhywbeth sydd ar gael am ddim eisioes ar y we?

  13. Meddai dafydd:

    Mae fy iTunes i (fersiwn 7.4.3.1) yn dangos enw’r trac (mae’n sgrolio fyny bob 5 eiliad), neu fe allwch chi glicio ar y ffenest).

    Ynglyn a hawlfraint, mae’n bwnc niwlog. Gan mod i’n ail-ddarlledu’n ‘gyhoeddus’ (ond heb incwm) mewn theori mae angen talu breindaliad PRS. Drwy ei fformiwla nhw mi fyddai rhaid talu can punt y flwyddyn - allai ddim fforddio hwnna heb werthu hysbysebu. Mae hynna yn bosib wrth gwrs ond fase 100 punt ddim yn mynd bell iawn o ran taliad i artistiaid.

  14. Meddai marc:

    Dwi’n gwrando rwan ar iTunes. Am syniad gwych. O ran manylion traciau, y cwbwl dwi’n cael o ran manylion ydi “Y Lladron - trac 24″. Ydio’n newid bob 24 awr?