daflog

Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd – 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma – http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.

14 o sylwadau to “Radio curiad”


  1. Nwdls
    ar Tach 7, 2006
    @ 17:12

    Super chouette!!

    Jest y peth i sdicio mlaen yn gwaith. Gesh i bach o drafferth efo iTunes i gychwyn felly newidiais i Windows Media Player. Dio ddim yn rhoi enwa artist a trac ddo.


  2. Aled
    ar Tach 7, 2006
    @ 17:48

    Mae’n gweithio yn iawn yn iTunes 7 (y fersiwn mwya diweddara)


  3. dafydd
    ar Tach 7, 2006
    @ 17:56

    Gret! Wnai arbrofi gyda iTunes o adre – mae’n bosib fod muriau diogelwch o fewn rhai colegau/cwmniau yn creu trafferthion hefyd.


  4. Fflamingo Gwyrdd
    ar Tach 7, 2006
    @ 18:48

    iTunes agorodd yn otomatig ar fy lloptap i – ac mae o i weld yn gweithio’n dda


  5. Huw Waters
    ar Tach 13, 2006
    @ 00:34

    iTunes ar Mac yn gweithio.

    Tydi VLC (Video LAN) ddim yn gweithio.


  6. Johnny R
    ar Tach 15, 2006
    @ 19:39

    Diddorol tu hwnt! Cofia radio-D, yn personol rwi’n hoffi y ‘siarad a malu cachu’ am dull radio, hyd yn oed ar y we. Heb hwnna ti’n basically bwtlegio pawb heb dalu. Merky byd, a bob llwyddiant, fydd arian parod yn handi iawn ar gyfer dolig! Wedi arwyddio gyda PPL/PRS/MCPS a ballu am digi-downloads…0.15c y blwyddyn siwr o fod! Radio-D 2000 the original welsh net show!


  7. Nwdls
    ar Tach 29, 2006
    @ 17:09

    Un peth: ma na ganeuon yn dod fyny a sdim syniad gen i pwy ydyn nhw.

    Can 1: “Dwi di bod yn cerddad efo nghria ar agor a dwi dal heb faglu. Dwi di bod yn byta a canu r’un pryd a dwi dal heb dagu’ – pwy?

    Can 2: Boddi cathod mewn sach – pwy?


  8. dafydd
    ar Tach 30, 2006
    @ 00:22

    Ddim yn siwr am can 1.. ond mae can 2 gan Tom Vilma. Mae WinAmp fel llawer o chwaraewyr yn dangos enw y trac/artist.


  9. Nwdls
    ar Rhag 6, 2006
    @ 10:50

    Diolch! Rioed di clywed amdano fo o’r blaen. Dwi’n cymryd yn ganiataol o’r gan Usual Suspects fod o’n gneud hyn sawl mlynedd yn ôl bellach?


  10. sanddef
    ar Hyd 10, 2007
    @ 16:39

    Pa feddalwedd dach chi’n defnyddio i ddarlledu?


  11. dafydd
    ar Hyd 10, 2007
    @ 16:57

    Winamp gyda rhestr chwarae o MP3s ar y peiriant lleol, gyda ategyn Oddcast er mwyn darlledu i weinydd Icecast. Mae’r gweinydd yna wedyn yn rhoi’r ffrwd sain i’r gwrandawyr.


  12. Hedd
    ar Hyd 16, 2007
    @ 18:14

    Ma hwn yn Wych. Mae’n gweithio’n iawn ar Itunes (a agorodd yn awtomatig ar y PC) ond yn anffodus nid oes enwau traciau yn ymddangos! :-(

    O( ran diddordeb, beth yw’r dêl o ran hawlfraint ayb? A ywe e’n iawn ail-ddarlledu unrhywbeth sydd ar gael am ddim eisioes ar y we?


  13. dafydd
    ar Hyd 16, 2007
    @ 19:49

    Mae fy iTunes i (fersiwn 7.4.3.1) yn dangos enw’r trac (mae’n sgrolio fyny bob 5 eiliad), neu fe allwch chi glicio ar y ffenest).

    Ynglyn a hawlfraint, mae’n bwnc niwlog. Gan mod i’n ail-ddarlledu’n ‘gyhoeddus’ (ond heb incwm) mewn theori mae angen talu breindaliad PRS. Drwy ei fformiwla nhw mi fyddai rhaid talu can punt y flwyddyn – allai ddim fforddio hwnna heb werthu hysbysebu. Mae hynna yn bosib wrth gwrs ond fase 100 punt ddim yn mynd bell iawn o ran taliad i artistiaid.


  14. marc
    ar Hyd 17, 2007
    @ 11:04

    Dwi’n gwrando rwan ar iTunes. Am syniad gwych. O ran manylion traciau, y cwbwl dwi’n cael o ran manylion ydi “Y Lladron – trac 24″. Ydio’n newid bob 24 awr?

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.