Ailgylchu baw defaid

Os ydych chi’n hwyr yn paratoi eich cardiau nadolig flwyddyn yma, beth am brynu rhai sydd wedi ei ailgylchu o faw defaid. Mae cwmni o Wynedd yn gwerthu cynnyrch (dim gwefan Gymraeg eto) sydd yn gwneud defnydd newydd o’r gwastraff yma. Yr unig beth sy’n poeni fi yw – onid yw baw defaid ac anifeiliaid eraill yn rhan o broses naturiol a hanfodol o roi gwrtaith yn ôl i’r pridd, yn enwedig ar dir mynydd?

Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd – 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma – http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.