Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros y blynyddoedd, does dal dim meddalwedd sy’n galluogi cyfrifiadur i leisio unrhyw destun yn berffaith mewn unrhyw iaith.
Mae datblygu system o’r fath ar gyfer Cymraeg heb lawer o adnoddau wedi bod yn waith hir, diflino. Dwi’n cofio Dr Briony Williams yn cyflwyno syntheseinydd llais Cymraeg yn 1995, a roedd hynny yn sgîl blynyddoedd o waith ymchwil.
Erbyn hyn mae’r Uned Technoleg Llais yng Nghanolfan Bedwyr wedi cyflwyno pecyn testun-i-lais ar gyfer Cymraeg. Mae fersiwn 1.0 ar gael yma i fod ond dyw’r ffeil zip ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae fersiwn 0.5 ar gael hefyd ond mae yna wallau ynddo a mae’n defnyddio hen samplau llais. Fel enghraifft o’r llais, dyma gloc sy’n siarad Cymraeg.
Yn anffodus, doedd popeth ddim cweit yn ei le adeg cyhoeddi erthygl Ping Wales, ond mae’r ffeil zip wedi bod ar y safle ers Dydd Gwener.
Er nad yw’n berffaith, mae fersiwn 1.0 yn llawer llawer gwell na’r fersiynau 0.x – fe fyddwn i’n argymell yn gryf i unrhyw un sydd yn defnyddio 0.x ei ddad-osod o fewn y Panel Rheoli, ac yna llwytho fersiwn 1.0 i lawr. Mae tri llais o fewn y pecyn, gan gynnwys fersiwn o lais 1995 (llais Deheuol oedd hwn), a dau lais Gogleddol newydd sbon. Rydym ni’n ymwybodol iawn fod yna glicio a phopio yn effeithio ar allbwn y lleisiau newydd. Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad o safon y recordio gwreiddiol – mae’r broblem honno wedi ei neilltuo ac mae’n cael ei datrys ar hyn o bryd. Fe fydd fersiwn 1.1 yn well fyth
Mae ansawdd y llais cloc yn uchel iawn (a’r cyfan wedi ei adeiladu o ddau ddwsin o frawddegau’n unig), ond gwell nodi i eraill nad dyma ansawdd y lleisiau Windows – yn gyffredinol, o fewn y dechnoleg yr ydyn ni’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mae ansawdd synthesis lleferydd codi pan mae’r eirfa’n lleihau.
Mae’r lleisiau’n gweithio ar systemau Festival safonol ar Linux hefyd gyda llaw, gyda dim ond un newid bach iawn i’r cod – rho wybod os am ragor o fanylion.
Pingback: Murmur