Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros y blynyddoedd, does dal dim meddalwedd sy’n galluogi cyfrifiadur i leisio unrhyw destun yn berffaith mewn unrhyw iaith.
Mae datblygu system o’r fath ar gyfer Cymraeg heb lawer o adnoddau wedi bod yn waith hir, diflino. Dwi’n cofio Dr Briony Williams yn cyflwyno syntheseinydd llais Cymraeg yn 1995, a roedd hynny yn sgîl blynyddoedd o waith ymchwil.
Erbyn hyn mae’r Uned Technoleg Llais yng Nghanolfan Bedwyr wedi cyflwyno pecyn testun-i-lais ar gyfer Cymraeg. Mae fersiwn 1.0 ar gael yma i fod ond dyw’r ffeil zip ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae fersiwn 0.5 ar gael hefyd ond mae yna wallau ynddo a mae’n defnyddio hen samplau llais. Fel enghraifft o’r llais, dyma gloc sy’n siarad Cymraeg.
Gan Rhys Jones 29 Awst 2006 - 2:35 pm
Yn anffodus, doedd popeth ddim cweit yn ei le adeg cyhoeddi erthygl Ping Wales, ond mae’r ffeil zip wedi bod ar y safle ers Dydd Gwener.
Er nad yw’n berffaith, mae fersiwn 1.0 yn llawer llawer gwell na’r fersiynau 0.x – fe fyddwn i’n argymell yn gryf i unrhyw un sydd yn defnyddio 0.x ei ddad-osod o fewn y Panel Rheoli, ac yna llwytho fersiwn 1.0 i lawr. Mae tri llais o fewn y pecyn, gan gynnwys fersiwn o lais 1995 (llais Deheuol oedd hwn), a dau lais Gogleddol newydd sbon. Rydym ni’n ymwybodol iawn fod yna glicio a phopio yn effeithio ar allbwn y lleisiau newydd. Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad o safon y recordio gwreiddiol – mae’r broblem honno wedi ei neilltuo ac mae’n cael ei datrys ar hyn o bryd. Fe fydd fersiwn 1.1 yn well fyth 🙂
Mae ansawdd y llais cloc yn uchel iawn (a’r cyfan wedi ei adeiladu o ddau ddwsin o frawddegau’n unig), ond gwell nodi i eraill nad dyma ansawdd y lleisiau Windows – yn gyffredinol, o fewn y dechnoleg yr ydyn ni’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mae ansawdd synthesis lleferydd codi pan mae’r eirfa’n lleihau.
Mae’r lleisiau’n gweithio ar systemau Festival safonol ar Linux hefyd gyda llaw, gyda dim ond un newid bach iawn i’r cod – rho wybod os am ragor o fanylion.
Gan Murmur 28 Tachwedd 2006 - 4:02 pm
…yn yr awel…
Mae gan bawb eu cyfrinachau. Neu’n hytrach, mae gan bawb ddau fath o gyfrinach. Y math cyntaf yw’r rhai na fedrir son amdanynt i neb, y pethau hynny y byddai erchyllterau lu yn digwydd o’u datgelu. Chewch chi ddim o’r rheina ar …