Kronva Thoor
Thursday, August 31, 2006 23:42Ydych chi’n credu bod nofio mewn cronfa ddŵr yn cŵl? Wel dyw e ddim, reit? Dyna’r neges sydd i’w glywed mewn trac newydd sydd wedi ei ryddhau gan Cymal 3. Dyna gyd.
Cymal #3 - Kronva Thoor [3.78MB]
Ydych chi’n credu bod nofio mewn cronfa ddŵr yn cŵl? Wel dyw e ddim, reit? Dyna’r neges sydd i’w glywed mewn trac newydd sydd wedi ei ryddhau gan Cymal 3. Dyna gyd.
Cymal #3 - Kronva Thoor [3.78MB]
Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros [...]
Diolch i Mei am roi fideo lan o berfformiad hynod Wilma Harries yn y Steddfod. Roedd hi yn un o ddau wnaeth roi cynnig ar Cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas - unawd agored ar y delyn deires. Mae hi’n chwarae dau ddarn traddodiadol - ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Cartref’ - mewn arddull ‘cerdd dannedd [...]
Syrpreis bach oedd gweld seleb diweddara Cymru yn cael ei gyfweld ar Wales Today yn ei acen Americanaidd rhywiol. Doniol sut mae Claire Summers yn dweud “tell the viewer” - dim ond fi oedd yn gwylio felly?
Roedd Chris Cope yn yr Eisteddfod heddi i siarad yn Maes D. Mae’r boi yma yn ‘pro’ nawr - [...]
Fe wnaeth edefyn am Llanelli ar faes-e atgoffa fi am record o’r 90au cynnar. Yr adeg hynny daeth Llanelli ac Abertawe i sylw’r wasg oherwydd digwyddiadau o drais, dwyn ceir, gwefryrru a drygioni anghymdeithasol cyffredinol. Dwi’n cofio Craig Charles yn gwneud eitem am hyn ar raglen BBC 1 (Them and Us o bosib). Fe samplwyd [...]