Wythnos Byw’n Iach

Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?

Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?

Mellt a tharanau

Cododd storm dda iawn neithiwr fel awgrym fod yr Haf yn dod yn araf bach. Wnes i ffilmio ychydig o’r storm gyda’r camera digidol bach a dyma rhai o’r mellt mwya trawiadol.

Cronfa Rhaglenni’r BBC

Yn ddiweddar fe wnaeth y BBC rhoi ei gatalog o raglenni ar lein. Mae’n adnodd gwych i gîcs teledu/radio fel fi neu unrhyw un sydd eisiau gwneud ymchwil mewn unrhyw faes. Chwilio am enwau yw’r cam amlwg cynta. Er enghraifft, beth am ymddangosiadau Dafydd Wigley ar y BBC o 1974 hyd heddiw?

Dyma’r rhestr o raglenni Cymraeg y BBC – ond mae yna fylchau yma am nad yw pob rhaglen Gymraeg wedi ei nodi o dan y genre yma.

Wrth feddwl am gyfresi i chwilio amdanynt, y rhai amlwg i mi oedd Yr Awr Fawr a Hafoc. Sdim llawer o wybodaeth am y cyfresi hynny ond mae gwybodaeth ddefnyddiol yn rhestr rhaglen y Bocs a gyflwynwyd gan Huw ‘Bobs’ Pritchard – mae gwybodaeth am y bandiau a’r caneuon wnaeth ymddangos, ynghyd a dau ddangosiad gan un ‘David Edwards (musician)‘.

Mae’n biti nad yw’r wybodaeth yn gyflawn – lle mae holl bennodau Heno Bydd Yr Adar Yn Canu? Er hynny.. fe fyddai’n twrio fan hyn am sbel.