Archif ar gyfer May, 2006

Cyfeddach Cravos

Sunday, May 28, 2006 14:52

Os ydych chi ar ddihun yn gynnar iawn bore fory beth am wrando ar y ‘Steffan Cravos Orgy’ (swnio’n hwyl). Mae’r sioe yn cael ei ddarlledu ar orsaf radio prifysgol Harvard am 13 awr o 5am i 6pm (amser Cymru) felly fe fydd siawns i diwnio mewn drwy’r dydd. Mae’n bosib gwrando ar y we [...]

Cyfryng-hwr

Thursday, May 25, 2006 20:45

Mae aelodau’r Rhithfro yn hoff o ymddangos ar y cyfryngau. Mae Dogfael a Rhodri wedi ymddangos ar Wedi 7 , fe wnaeth Rhys fodelu dillad ar BBC Breakfast, mae Geraint wedi gwneud un neu ddau ymddangosiad ar S4C a mae Nic bron a bod yn gyfryngi llawn amser. Sôn wedyn am Radio Cymru, fe wnaeth [...]

Ail-wampio’r mapio

Tuesday, May 23, 2006 15:25

Ces i cyfle (prin) heddiw i weithio ar Curiad eto, ac i wella y defnydd o fapiau Google. Yn ddiweddar mae Google wedi diweddaru eu API* i fersiwn 2, oedd yn golygu ychydig bach o newidiadau i’r cod sy’n creu’r mapiau, ond ddim byd rhy galed.
Wedyn wnes i rhywbeth roeddwn eisiau gwneud ers sbel - [...]

A dyma’r newyddion eto…

Wednesday, May 17, 2006 23:37

Iawn, mae e wedi bod yn sbort gwylio a darllen am stori Guy Goma dros yr wythnos ddwetha, y dyn anffodus hynny cafodd ei gyfweld yn fyw ar News 24 mewn camgymeriad. Ond oes wir angen cofnod Wicipedia iddo?

A dyma’r newyddion…

Wednesday, May 17, 2006 23:34

Mae’r BBC wedi ryddhau fersiwn hir o gerddoriaeth agoriadol News 24. Dwi’n caru stwff fel hyn - mae cyfansoddiadau David Lowe yn wych. Mae’n cyfleu hunan-bwysigrwydd ‘Y Newyddion’ i’r dim gyda awgrym o goegni - sylwch gymaint o swooshes, blîps bach a drym riffs sydd yn cael ei wasgu fewn erbyn hyn. Dwi’n meddwl fod [...]