daflog

Diwrnod yn y bae

Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. Tra o’n i yna roedd criw o India yn ffilmio yng ngwahanol lefydd o gwmpas y Bae. Roedden nhw’n griw eitha proffesiynol yr olwg (tua 30 ohonynt) gyda camera ffilm go iawn, nid fideo, er nad oedd llawer o drefn i’w weld arnynt – fues i am hir yn trio gweithio allan pwy oedd yn cyfarwyddo.

Ffilmio Indiaidd ym Mae Caerdydd

Roedden nhw’n ffilmio mewn darnau o 5 eiliad gyda merch a bachgen yn dawnsio i gyfeiliant cerddoriaeth. Dwi’n dweud dawnsio, ond oedd e’n amlwg mai nid dyna oedd sgil cryfaf y dyn ifanc o flaen y camera. Roedd yna ddau goreograffydd yn ei helpu i ddysgu y symudiadau ar gyfer pob darn byr ac yn cael trafferth mawr i gael y peth yn iawn – nid oedd yn ysgafn ar ei draed…

Fe wnes i dreulio hanner awr yn gwylio hyn ac ar ôl deg cais fe lwyddwyd i fodloni’r cyfarwyddwyr a fe aethon nhw ymlaen i’r 5 eiliad nesaf. Yr ymadrodd dwi’n gofio o’r diwrnod yma oedd “Ready! Sound! Taking!” (rhywbeth felna.. mewn acen Indiaidd). Dyma ddau glip fideo o’r ffilmio a dyma luniau o’r diwrnod.

Take 23 [10.2MB]
Ready! Sound! [12.1MB]

3 o sylwadau to “Diwrnod yn y bae”


  1. Seiriol
    ar Tach 16, 2005
    @ 17:40

    Mae’r clipiau na’n gret! Dyle ti di gofyn pryd ma’r ffilm yn dod allan. Dwi’n medru gweld edefyn ar maes-e yn pynio enwau ffilmiau Bollywood yn Gymraeg yn dechrau’n fuan …


  2. dafydd
    ar Tach 16, 2005
    @ 18:25

    Chafon ni ddim llawer o sens allan ohonyn nhw. Wnaeth Dad ofyn i boi pwysig yr olwg – “Where are you from?” Ateb: “Indian!”. “Oh, what are you filming?” … “Indian!” … “How long are you here for?” … “Indian!”


  3. Blogel
    ar Rhag 2, 2005
    @ 22:14

    O’n i yno ‘run pryd a ti – Roedden ni yno yn cael [i]photoshoot[/i] bach ein hunain (pwysig, ‘de?!) – a daeth yr Indiaid ato’ ni a gofyn os bydden ni’n fodlon bod yn rhan o’u ffilm nhw…(!) Od.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.