Dwi am fynd nôl i 1993 gyda tri trac gan ‘swynwr y synthau’ (y Rick Wakeman Cymraeg)… ie, John Grindell. Wnaeth e ryddhau caset ar label Sain y flwyddyn honno o’r enw Celt (C2066a) sydd yn gampwaith o chwarae synth prog-rocaidd. Yndi mae’n gawslyd ac yn anffasiynol ond dyna pam dwi’n ei hoffi. Mae yna rywbeth arbennig am lais John hefyd sydd yn gyfuniad perffaith gyda’r synth.
Mae nodiadau defnyddiol ar y clawr felly sdim rhaid i fi wneud dim – mae’r gân gyntaf Dianc yn “gân yn sôn am y pwysau ar y Cymry sy wedi’i osod arnom gan y Saeson a’r Saesneg… mae’r straen weithiau’n mynd yn ormod.. ac mae’n hawdd meddwl am ddianc yn lle wynebu’r problemau”
Yr ail gân (yma nid ar y caset) yw Y Teithiwr ’93 (vocoder ahoi) – “cân ysgafn… yn sôn am ddyn sy’n gofyn i ferch ymuno â fo yn ei long ofod a theithio trwy’r bydysawd“. Ffar owt..
Y drydedd yw’r gân wych Yr Ynys sy’n para am 13 munud (ond dim ond 4 munud dwi wedi ei roi yma) – “mae’r gân gonsept hon yn dangos dyheadau’r cyfansoddwr am ddyddiad roc progresif y saithdegau”
Gan Yr Atal Genhedlaeth 14 Hydref 2005 - 9:51 pm
Ma’r teithiwr yn wych. Os fysa hwnna yn cael ei re-micsio, sa fo’n anferth ! Ma’n anhygoel faint o sdwff John sy mor ffynci ! Os ‘na jans, Dafydd am y gan dawnsio ar y sgwar ???
Gan dafydd 14 Hydref 2005 - 10:18 pm
Yndi.. mae’r Teithiwr mor dda wnaeth e ysbrydoli fi arbrofi efo re-mics neithiwr. Ond dwi ddim yn arbennigwr yn hynny (a fase angen y traciau unigol i wneud well job). Mae gen i 12″ Dawnsio ar y sgwar, a ‘fersiwn ty’ ar hen dâp gan John felly fydd hwnnw fyny’n fuan.
Gan Nic Dafis 15 Hydref 2005 - 3:03 pm
Gweler gwefan John Grindell. Falch iawn o glywed ei fod e wedi bod mewn band teyrnged i ELP! 😉