daflog

Cyfweliad ‘Sulu’

Dyma gyfweliad gyda George Takei (‘Mr Sulu’ yn Star Trek) yn trafod ei blentyndod mewn gwersyll caethiwed yn America, ei waith dros hawliau dynol ac – am y tro cyntaf – ei rywioldeb. Parch.

Seren radio

Dwi wedi bod yn gwrando ychydig ar STAR Radio wythnos yma, gorsaf radio gymunedol yng Nghaerdydd. Mi fydd y sioeau i gyda ar gael yn fformat MP3 ar ôl eu darlledu. Mae nifer o bethau difyr yno ynghyd ac ambell i beth Cymraeg (neu Gymreig o leia).

Ffilmiau Cymraeg ar DVD

Bu cryn drafodaeth yn ddiweddar gan faeswyr am ba raglenni Cymraeg o’r gorffennol fasen nhw’n hoffi ei weld yn cael eu ryddhau ar DVD. Dyw nifer fawr o’r cynigion ddim yn realistig – er y byddai’n ‘neis’ gweld rhai o raglenni cynnar y sianel eto – mae tueddiad o hiraethu am hen rhaglenni nad oedden nhw mewn gwirionedd mor dda a hynny.

Er fod rhai rhaglenni wedi edrych nôl ar gyfnod cynnar teledu Cymraeg fyddai’n well gen i gweld cyfres barhaol ar S4C gan roi hen raglen yn ei gyd-destun. Mi wnaed hyn yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar ar BBC Four, gyda rhaglenni o wahanol ddegawdau yn cael eu darlledu yn llawn gyda trafodaeth gan ddau pundit yn gofyn y cwestiwn “a oedd y rhaglenni yn well go-iawn neu ydi’n atgofion wedi eu lliwio?”

Mae llawer o raglenni ar unrhyw sianel yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ei gwylio ar y pryd ac yn ei gyfnod – er ei fod yn ddiddorol i edrych nôl ar y rhaglenni yma fel dogfennau hanesyddol, ni fase’n werth cynhyrchu DVD ohonynt. Mae mwy o arian ac ymdrech yn mynd ar ffilmiau a dramau er mwyn gwneud yn siwr fod y gwaith o safon ac yn addas i’w darlledu yn y dyfodol.

Eitem newyddion sy’n berthnasol heddiw felly yw fod S4C yn ryddhau pedwar ffilm ar DVD mewn pecyn, yn cynnwys Hedd Wyn. Mi fydd e’n anhreg Nadolig da iawn i rywun dwi’n siwr.

Ar yr un trywydd fe wnaeth Deddf Cyfathrebu 2003 osod canllawiau newydd sydd yn rhoi hawliau masnach rhaglenni nôl i’r cynhyrchwyr annibynnol. Fe gyhoeddodd S4C ddoe mai nhw yw’r darlledwr cynta i ddechrau gweithredu hyn. Mae hyn yn cynnig cyfle ychwanegol i gwmniau cynhyrchu sydd eisiau gwneud defnydd masnachol o’i rhaglenni archif.

Lwc y Cymry

Roedd erthygl ddoe yn y Guardian lle roedd ymchwil yn dangos fod pobl cafodd eu geni ym mis Mai yn credu eu bod yn fwy lwcus. Y syniad dwi’n credu yw fod rhai pobl yn dueddol o bwysleisio bethau ‘da’ sy’n digwydd a fod hynny yn atgyfnerthu’r syniad o fod yn lwcus.

Fel un gafodd ei eni ym mis Mai, rhaid dweud mod i’n cytuno ar y cyfan – dwi’n berson optimistig ac yn dueddol o weld y gorau o bopeth. A dwi’n gweithio gyda pesimist mwya’r byd (a gafodd ei eni ym mis Rhagfyr).

Ar ben hynny, fe wnaeth ymchwil Yr Athro Richard Wiseman ddarganfod fod y Cymry yn fwy lwcus na phawb arall ym Mhrydain (wel mi roedden ni’n gwybod hynny yn barod). Mae llawer o’r ymchwil ar gael yn y llyfr The Luck Factor (yn anffodus mae’r profion ar y wefan honno wedi torri).

Podledu

Newydd fod yn gweithio ychydig ar wefan Podledu a ysgrifennu tudalen ar gyfer Radio Amgen – tra’n gwneud bach o ymchwil wnes i ddarganfod blog Graffiti Cymraeg sy’n cynnwys podlediad. Ddim cweit y podlediad Cymraeg cyntaf ond beth yw ychydig ddyddiadau rhwng ffrindiau?

Fel mae’r blog yn esbonio, er mai Cymraeg yw iaith y cyflwyniad, cerddoriaeth saesneg ‘podsaff’ sy’n cael ei chwarae yn y sioe ar hyn o bryd – ond dyma’r amrywiaeth iach sy’n bosib ei gael yn y cyfrwng yma.

Gobeithio bydd fwy i glywed gan Rhys yn fuan.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site