Ecsentrig

Yn fy arddegau o’n i’n hoff o wrando o gerddoriaeth (o’r radio neu dâp) yn y gwely, yn y tywyllwch, cyn syrthio i gysgu – dwi’n siwr fod yna fantais o dorri allan y synhwyrau eraill, mae’r gerddoriaeth yn treiddio yn ddyfnach i’r psyche rhywsut.

Dyma un o’r traciau sydd wedi llosgi i’r meddwl – y teitl trac oddi ar EP Ecsentrig gan A5 (R-BEN 19, 1992).

A5 – Ecsentrig [6.17 MB]

2 thoughts on “Ecsentrig

  1. Mae gen i “ddefod” debyg cyn mynd i gysgu – creu playlist o dair cân a cheisio cwmpo i gysgu cyn diwedd y drydedd. Mae’n anodd cyflawni hynny yn y gwres yma.