Mae’r BBC wedi agor archif o’i adroddiadau newyddion. Sdim llawer yna eto yn ystod y cyfnod arbrofol ond fe allai fod yn adnodd diddorol tu hwnt.
Dr Pwy a’r Graske
Ar ôl y bennod Nadoligaidd gwych o Dr Who, dangoswyd pennod ‘rhyngweithiol’ byr, Attack of the Graske.
A dyma esbonio o’r diwedd pwy oedd yn ffilmio nôl ym mis Tachwedd. Roedd hi’n bennod rhyngweithiol iawn mewn mwy nag un ffordd felly!
Owain Wright
Roedd yn drist iawn clywed am farwolaeth Oz (Owain Wright) mewn damwain gyda car, ar ôl iddo fod mewn ggi yn Neuadd Hendre, Bangor lle roedd ei ffrind Euros Childs yn chwarae ymysg eraill.
Mi fyddai ei lais yn fwy adnabyddus na’i wyneb dwi’n siwr, i’r rhai sy’n cofio cerddoriaeth arbennig Rheinallt H. Rowlands. Fel teyrnged bach dyma un o ganeuon cynharaf y grŵp, Weithiau sydd i’w gael ar CD Triskadekaphilia (Ankst CD 061)
Bwrth Croysaw Kimroo
Edrychwch allan am gardiau nadolig y bwrdd croeso gyda dodgi welsh sydd wedi syrthio o gefn lori (gyfieithu). Mae castell am byth (wot?). Dyna gyd. Drosodd ac allan.
Blog gwyddonias
Mae criw y cylch gwyddonias o’r maes wedi dechrau blog newydd – Bodio’r Bydysawd – ar gyfer eitemau newyddion, adolygiadau ar gyfer unrhywbeth arall yn trafod gwyddonias. Os ydych chi eisiau cyfrannu unrhywbeth, ewch draw a chliciwch ar y botwm Cysylltu.