Newydd ddod ar draws un arall o’r gwefannau chwerthinllyd hynny wedi’u cyfieithu drwy feddalwedd TranExp (wnaeth y cwmni seilio ei geiriadur Cymraeg ar wybodaeth wnaethon nhw ‘fenthyg’ o’r we a fe wnaethon nhw gamdeall y fformat mae’n debyg).
Caewch y git
Welais i lofnod ar ebost rhywun yn ddiweddar (rhai doniol wedi’u dewis ar hap) sy’n werth ei rannu:
There were red faces in the O.S. office when its English surveyors returned from compiling a list of house names in mid and north Wales. The results contained an unusually high number of properties called Gwyliwch rhag y ci or Caewch y git, better known in English as Beware of the Dog or Shut the Gate.
Sut allai hyn ddigwydd dyddie ‘ma, meddylies i? Wnes i lwyddo i ddarganfod ffynhonnell y dyfyniad, mewn erthygl o’r Guardian, Mehefin 1999. Dwi’n amau mai gwall y Grauniad oedd ‘git’ – mae’n siwr fod arolygwyr yr OS wedi ymfalchio wrth gofnodi’r holl enwau yn ofalus, heb sylweddoli eu camsyniad mwy sylfaenol.
Yr IT Crowd
Mae rhaglen gomedi newydd yn dechrau ar Channel 4 mis nesa, yn canolbwyntio ar y gwaith di-ddiolch hynny sy’n rhan hanfodol o bob busnes heddiw – yr adran technoleg gwybodaeth. Mae’n argoeli’n dda am mai Graham Linehan yw’r awdur ond dwi hefyd yn edrych ymlaen am y cameo gan Chris Morris. Mi fydd hi’n bosib gweld y pennodau wythnos o flaen llaw ar wefan Channel 4.
Sesiwn Radio Amgen
Mae gen i sesiwn fyny ar Radio Amgen yr wythnos yma.
‘Fel Petai’ yw enw’r trac a gafodd ei ryddhau ar dâp yn 1993. O’n i am sgrifennu darn hir yn esbonio pwrpas y darn ond wna’i ddim nawr..
Archif Newyddion BBC
Mae’r BBC wedi agor archif o’i adroddiadau newyddion. Sdim llawer yna eto yn ystod y cyfnod arbrofol ond fe allai fod yn adnodd diddorol tu hwnt.