Dwi ar ben fy hun yn y swyddfa, tra fod pawb yn y dafarn (wel mae rhaid i rywun ateb y ffôn, dyna fe esgus). Dwi’n chwarae cerddoriaeth FrankMusik yn uchel. Perffaith! (ac ydi mae’r blog yma yn dipyn o twityr heddiw).
Geiriau cyffredin
Yn ôl tudalen ar wefan Croeso Cymru:
About 65% of Snowdonians speak Welsh. So it helps to know a few common words, like ‘arddunol’ (beautiful), ‘syfrdanol’ (stunning), and ‘hyfryd’ (lovely)
Hy? Bues i’n byw yng Nghwynedd am 9 mlynedd.. chlywais i erioed y gair. Mae’n air da i farddoniaeth falle ond ydi e’n air cyffredin? Prydferth yw’r gair mae pobl yn ddefnyddio ar lafar.
Popeth sy’n digwydd
Albym newydd gan David Byrne a Brian Eno – allwch chi feddwl am unrhywbeth gwell? Dwi’n dal i wrando ar hwn ond mae yna cwpl o draciau difyr mor belled.
Charles Byrd
Dwi wedi ychwanegu categori ‘Celf’ ar gyfer y cofnod hwn, a dwi ddim yn gwybod faint o ddefnydd gaiff e. Roedd arddangosfa o luniau Charles Byrd yn yr Eisteddfod.
Mae ei luniau o’r 50au yn reit ffantasïol ac yn gwneud i Gaerdydd edrych fel ryw bentre bach pert yn Ffrainc. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys ei ‘gerfluniau symudol’, fel mae’r llun isod yn dangos. Roedd y rhain wedi bod yn eistedd mewn atic am flynyddoedd a roedd y gwe pry cop yn dal yn hongian oddi arnyn nhw.
Gwefan Rhif 10
Mae Gordon Brown wedi lansio gwefan newydd i 10, Stryd Downing. Mae’n llawn o ddanteision gwe-2.0 yn y dull ffasiynol, a mae’n debyg fod nhw wedi cael ychydig o drafferth yn fuan ar ôl y lansiad.
Beth sy’n ddiddorol yw’r faith fod nhw wedi rhoi ‘BETA’ ar y wefan, sy’n golygu yffach o ddim byd mewn gwirionedd, heblaw falle nad ydyn nhw wedi profi e ddigon. Mi fyddai’n bosib dweud fod arweinyddiaeth Brown o’r llywodraeth yn dal mewn ‘beta’ neu ar brawf hefyd – mae nhw’n dal i ganfod gwallau yn y ‘rhaglen’.
Mae gwallau o’r fath mewn meddalwedd yn dangos diffyg cynllunio o flaen llaw, neu diffyg profiad o wneud y gwaith. Mi fyddai meddalwedd sydd wedi ei ddatblygu dros gyfnod o 11 mlynedd yn llawn o broblemau cudd gyda rhywbeth i lenwi’r craciau dros dro. Yn aml, os yw’n ormod o waith i atgyweirio’r meddalwedd, mae’n haws dechrau o’r dechrau ac efallai dod a rhaglennwr arall fewn i gael golwg o’r newydd ar y gwaith.