419 Cymraeg

Da dydd i chi. Ym mis Ebrill fe ges i neges sbam yn Gymraeg. Nid neges wreiddiol ond un wedi ei gyfieithu drwy Google Translate. Am fod y cyfeiriad ebost wedi ei grafu oddi ar wefan uniaith Gymraeg dwi’n cymryd fod y sbamwyr wedyn gallu addasu iaith y neges i’r iaith honno. Mae’r neges i’w weld isod:

Annwyl wlad,

Da dydd, yr wyf yn Miss Sarah Thomas, O Abidjan Cote D’Ivoire, hoffwn i ofyn am eich cymorth yn fy cynlluniau buddsoddi yn eich canolfan, yr wyf yn dymuno buddsoddi mewn gweithgynhyrchu a rheoli ystadau go iawn yn eich sylfaen, mae hyn oherwydd yr wyf yn etifeddu swm bwysig o fy niweddar dad Prif Steve Thmas. a oedd yn gwenwyno gan ei bartneriaid busnes yn un o’u teithiau i discuse am fusnes.

Cyn marwolaeth fy nhad, a roddodd i mi yr holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol ynghylch y blaendal y gronfa yn y banc, ei fod wedi arbed cyfanswm o ($ 7.5) saith miliwn 500,000 unedig ddoleri yn datgan yn unig, yn un o’r banc yma yn Cote D’Ivoire, yr arian hwn yn cael ei ddyddodi ar gyfer fy nawdd cymdeithasol ac ar gyfer buddsoddi ffrwythlon rhyngwladol, bydd eich awgrymiadau a syniadau yn cael ei ystyried yn fawr. Nawr yn caniatáu i mi i ofyn y cwestiynau hyn ychydig:

1. Allwch chi fy helpu i onest gan eich calon?
2. Alla i ymddiried yn llwyr chi?
3. Bydd Pa ganran o gyfanswm yr arian yn cael ei appreciateable i chi?

Os gwelwch yn dda, yn ystyried hyn ac yn dod yn ôl i mi cyn gynted ag y bo modd. Immedaitely Yr wyf yn cadarnhau eich parodrwydd, byddaf yn anfon i chi ar fy llun a hefyd yn rhoi mwy o fanylion am fy hun ac yn y banc lle mae fy niweddar dad a adneuwyd y gronfa, fel bod modd i chi gyrraedd y banc ac yn cadarnhau bodolaeth y gronfa yn ogystal, oherwydd gweld yn credu. Yr wyf yn aros am eich ymateb ar unwaith.

Dymuniadau gorau
Sarah Thomas

Dyma enghraifft arall o’r un neges ond y tro hyn yn Sbaeneg. Oes unrhywun arall wedi derbyn negeseuon tebyg i hyn?

Postiwyd yn Iaith, Y We | 2 Sylw

Hacio’r gerddoriaeth

Dyma fy ymateb i her Carl i greu trac allan o’i sampls sain “Hacio’r Iaith”. Ie, allwch chi weld dylanwad Paul Hardcastle yn eitha amlwg fan hyn. Edrych ymlaen i weld os oes unrhywun arall am wneud rhywbeth tebyg.

      Cymal #3 - Yn Y Gymraeg
(Mics Haciaith) [4.32MB]

Postiwyd yn Cerddoriaeth, Iaith, MP3 | 2 Sylw

Achub Mynydd

Dwi wedi esgeuluso’r blog ychydig dros yr wythnosau diwetha yn bennaf oherwydd prysurdeb gwaith ac oherwydd fod y Twitter ddieflig yn tynnu ychydig o’r sylw.

Mae gen i gasgliad o glipiau sain/fideo yr hoffwn i wneud rhywbeth gyda nhw ond byth yn cael yr amser. Fel arbrawf bach felly dyma ychydig o nonsens wnes i roi at ei gilydd heddiw:

Postiwyd yn Fideo, Hwyl | 1 Sylw

Logo Dydd Gŵyl Dewi ar Google

Dewisodd Google lun o Gastell Gaernarfon fel ei logo arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2010, oedd yn ddewis dadleuol, ond mae nhw’n gwneud fwy o ymdrech gyda’i logos nag yn y gorffennol.

Dyma gasgliad o logos Gŵyl Ddewi o archif Google.

2010
Logo Google 2010

2009
Logo Google 2009

2008
Logo Google 2008

2007
Logo Google 2007

2006
Logo Google 2006

2004/2005
Logo Google 2004-2005

Postiwyd yn Y We | 4 Sylw

S4C Manylder Uwch

Mae S4C wedi gofyn i’w gwylwyr am gynigion i enwi eu sianel newydd fydd yn darlledu yn HD (yn glyfar iawn, mae nhw’n osgoi y gair ‘cystadleuaeth’). Felly dyma rhai o fy nghynigion i. Does dim rheidrwydd i ddefnyddio ‘S4C’ yn yr enw o gwbl ond mae yna demtasiwn i ddefnyddio’r ddyfais /C hynny.

S4/C Iolo

Sianel wedi ei neilltuo yn llwyr i raglenni wedi eu cyflwyno gan ‘darling’ y sianel – Iolo Williams (a mae yna ddigon o raglenni i’w dangos).

S4/Capel

Mae cynulleidfa S4C reit debyg i gynulleidfa capel – hen bobl, llond llaw o rieni ifanc a’r plant o dan 14 sydd yn cael eu llusgo yno.

S4/Clir

Am fod ansawdd llun S4/C Digidol mor ofnadwy ers y newid digidol, mi fydd y llun HD yn llawer ‘cliriach’ a nôl i’r safon oedd S4/C Digidol yn y lle cynta.

S4/Colur

Fe fydd mawrion y genedl nawr yn ymddangos mewn llun diffiniad uchel fydd yn dangos pob crychyn ar eu gwyneb, felly fe fydd gofyn am fwy o golur yn sicr.

S4/Cwm

Sianel sy’n dangos Pobol y Cwm rownd y cloc a dim byd arall (peidiwch cymysgu hwn a S4C Digidol sydd yn darlledu dewis bach o raglenni eraill rhwng pennodau o Bobol y Cwm).

S4/Cyfan

Mae’r cyfan i’w weld ar S4C mewn manylder uwch (mae hwnna yn lled ddifrifol, ond mae ‘gwyliwch y cyfan’ yn slogan ddefnyddiol i’r sianel ‘gyffredin’ hefyd). Yn anffodus ni fydd y cyfan o raglenni S4C i’w gweld yn HD gan mai darlledu o 6-11pm fydd y gwasanaeth i gychwyn.

Mae rhai sianeli saesneg wedi eu hail-enwi yn llwyddiannus i enwau sy’n swnio’n dwp i ddechrau – fel ‘Dave’. Beth am ddefnyddio’r un dechneg felly – na, nid ‘Daf’, ond rhywbeth fwy addas – ‘Rhisiart‘ efallai?

Postiwyd yn Iaith, Teledu | 3 Sylw