Archifau Categori: Cyfryngau
Archif Newyddion BBC
Mae’r BBC wedi agor archif o’i adroddiadau newyddion. Sdim llawer yna eto yn ystod y cyfnod arbrofol ond fe allai fod yn adnodd diddorol tu hwnt.
Dr Pwy a’r Graske
Ar ôl y bennod Nadoligaidd gwych o Dr Who, dangoswyd pennod ‘rhyngweithiol’ byr, Attack of the Graske. A dyma esbonio o’r diwedd pwy oedd yn ffilmio nôl ym mis Tachwedd. Roedd hi’n bennod rhyngweithiol iawn mewn mwy nag un ffordd … Continue reading
Bwrth Croysaw Kimroo
Edrychwch allan am gardiau nadolig y bwrdd croeso gyda dodgi welsh sydd wedi syrthio o gefn lori (gyfieithu). Mae castell am byth (wot?). Dyna gyd. Drosodd ac allan.
Arddangosfa Encore
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa ar lein newydd yn dilyn hanes cerddoriaeth Cymru o’r canol oesoedd i gerddoriaeth pop, fodern. Mae yna nifer o luniau neis yna hefyd, yn cynnwys Caryl Parry Jones mewn gwisg lachar iawn a Beganifs … Continue reading
Gwefan gwastraff
Mae yna hysbysebion teledu yn cael eu dangos ar hyn o bryd yn hyrwyddo ail-gylchu felly es i draw i’r wefan i weld beth sydd yno. Wnai ddim cwyno am y dylunio di-ddychymyg ac anghyson, nac am y gwallau bach … Continue reading