Roedd gen i dipyn o bethau wedi ei llyfrnodi ar YouTube, felly dyma nhw gyda mewn un neges.
Yn gynta Disgo (fersiwn Saesneg yn anffodus) gan Becca White – cynhyrchiad John Grindell. Mae auto-tune wedi cyrraedd Wrecsam!
Mae pawb wedi gwneud y tric ‘isdeitlo Hitler’ ond dyma ymgais Gymraeg gan Eilir Jones. Diolch i Ceri am hwn.
Ac yn ola, trac ‘The Achievements of Man‘ gan yr anhygoel Francis Monkman. Dwi’n cofio’r gerddoriaeth yma raglenni Johnny Ball ond mae’n debyg ei fod yn rhan o trac sain ‘Prisoner Cell Block H‘ hefyd. Roedd fersiwn da o’r trac yma yn agor y ddrama ‘Micro Men‘ yn ddiweddar ar BBC Four.
Gan Huw Waters 22 Hydref 2009 - 1:13 am
Dwi wostad wedi meddwl fod ‘The Achievements of Man’ yn debyg iawn i ‘Pulstar’ gan Vangelis.
Gan John Grindell 29 Tachwedd 2009 - 2:18 am
Hei, be ‘di hyn am Autotune yn cyrraedd Wrecsam? Fi ddechreuodd Autotune YN Wrecsam ym 1979!! :O
Gan Dafydd Tomos 29 Tachwedd 2009 - 4:29 pm
O flaen dy amser John, wastad wedi dweud..